Defnyddio'r Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth ar gyfer adolygu arlwy'r Ysgol Fusnes a chryfhau'r ffocws ar sgiliau ac agweddau entrepreneuraidd

Cyhoeddwyd yr erthygl ganlynol gan Corina Edwards, Uwch-ddarlithydd, Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, a David Bolton, Rheolwr Cymorth Menter, Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi, Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, yn EntreComp into Action: Get Inspired Make it happen – A user guide to the European Entrepreneurship Competence Framework

School of Management Exterior Building

Addysg entrepreneuriaeth yn yr Ysgol Reolaeth: canolbwyntio ar syniadaeth a chynllunio busnes

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe wedi pennu darpariaeth menter ac arloesi yn golofn strategol o ran ymgysylltu â busnes a dysgu ac addysgu. Yn debyg i'r rhan fwyaf o ysgolion busnes, mae'r modiwlau entrepreneuriaeth, yn draddodiadol, wedi canolbwyntio ar y damcaniaethau perthnasol ynglŷn ag arweinyddiaeth, syniadaeth, a chynllunio busnes. Fodd bynnag, roedd y dull hwn yn gyfyngedig o ran y defnydd ymarferol o setiau sgiliau entrepreneuraidd ac, felly, yn cyfyngu ar feithrin meddylfryd entrepreneuraidd ymhlith eu myfyrwyr a'u graddedigion.

Amlygu bylchau yn y cwricwlwm drwy fapio cymwyseddau'r Fframwaith

Derbyniwyd, yn gyffredinol, fod dull addysgeg ymarferol yn gwella datblygu nodweddion entrepreneuraidd a setiau sgiliau menter. Gan gofio hyn, mae nifer o arweinwyr academaidd ym maes datblygu addysg entrepreneuraidd yn fyd-eang wedi'u gwahodd i asesu dull yr Ysgol Fusnes er mwyn iddi allu newid cyfeiriad.

Yn fewnol, dilynwyd dull pragmatig er mwyn asesu'r set o fodiwlau a addysgir ar hyn o bryd ac amlygu bylchau yn y cwricwla. Daeth i'r amlwg, yn eithaf buan, fod y modiwlau menter a'r llwybr presennol yn cynnwys tuedd ddamcaniaethol drom gydag ychydig iawn o entrepreneuriaeth ymarferol, os o gwbl. Yna, mapiwyd deilliannau dysgu'r modiwlau yn unol â'r Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth (“EntreComp”). Fel y tybiwyd, roedd yn amlwg bod tua 75 y cant o'r deilliannau hyn wedi'u halinio'n fwy tuag at gymwyseddau syniadaeth ac yn llai tuag at gymwyseddau gweithredu a rheoli adnoddau. O ganlyniad, daeth y ‘bwlch’ cwricwlaidd yn ganolbwynt y gwaith ailddatblygu ac i alluogi cydnabod cymwyseddau entrepreneuraidd ehangach.

Canolbwyntio o'r newydd ar feysydd adnoddau a gweithredu'r Fframwaith

Dyma ddyddiau cynnar y dull newydd, wrth i fodiwlau'r llwybr entrepreneuriaeth gael eu halinio. Mae enghraifft o'r camau sydd wedi'u cymryd i'w gweld yn un o'r modiwlau cynllunio busnes presennol, lle mae'r amcanion dysgu yn rhoi mwy o bwyslais ar gymwyseddau syniadaeth. Mae modiwl entrepreneuriaeth gymhwysol newydd wedi'i gyflwyno fel cydofyniad i'r modiwl cynllunio busnes presennol. Mae hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr israddedig lefel 5 (lefel gradd blwyddyn 2). Yn ogystal â hyn, mae cyllid o ffynonellau preifat a mewnol wedi'i sicrhau i ganiatáu i fyfyrwyr y modiwlau gynnig eu syniadau er mwyn ennill cyllid i roi cynnig ar eu busnes. Mae hyn, bellach, yn canolbwyntio mwy ar y cymwyseddau adnoddau a gweithredu yn rhan o'r Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth.

Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuriaeth wedi'i ddefnyddio fel offeryn i wella cydbwysedd y deilliannau dysgu yn y modiwlau entrepreneuriaeth o ran gwybodaeth ddamcaniaethol, trylwyredd academaidd, a phrofiad ymarferol. Mae hyn wedi arwain hefyd at ennyn rhagor o ddiddordeb yn llwybr y rhaglen entrepreneuriaeth, yn ogystal â helpu'r Ysgol Fusnes o ran cyflawni lefelau bodlonrwydd myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy synergyddol.

“Yn y bôn, rydym wedi defnyddio'r Fframwaith fel offeryn i sicrhau cydbwysedd mwy effeithlon yn neilliannau dysgu'r modiwlau o ran gwybodaeth ddamcaniaethol, trylwyredd academaidd, a phrofiad ymarferol mewn entrepreneuriaeth a sgiliau menter.” – Corina Edwards a David Bolton.