Astudiwch gyda ni
Os ydych eisiau gyrfa gyffrous yn y sector cyfrifeg a/neu sector sy’n gysylltiedig â chyllid, efallai yn un o’r pedwar cwmni cyfrifeg mawr (Deloitte, Ernst & Young, KPMG neu PricewaterhouseCoopers), mae ein hystod amrywiol o raddau israddedig ac ôl-raddedig ar eich cyfer chi.
Rydym ymysg y 5 Gorau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (The Times a The Sunday Times 2018).
Yn ogystal â chael achrediadau cyrff proffesiynol, mae ein holl gyrsiau wedi’u strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd fel y gallwch deilwra eich modiwlau, ac yn y pendraw eich gradd hefyd, i gyd-fynd â’ch dyheadau gyrfa.
A ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd?
Ewch i'n tudalen Myfyrwyr Presennol am wybodaeth ar raglenni, modiwlau ac amserlenni.