Research in Yello Lab Coat looking running experiment

Technolegau Y Gellir Eu Cymhwyso Ym Meysydd Meddygaeth A Gofal Iechyd 

Mae Technolegau Meddygol yn un o bedair thema ymchwil strategol yn yr Ysgol Feddygaeth. Mae'r themâu’n ymwneud â datblygiadau mewn ymchwil drosi. Caiff ei gefnogi gan y Cyngor Ymchwil Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC). Rydym yn gweithio gyda'r Scar Free Foundation yn ein gwaith ym meysydd meddygaeth aildyfu a meddygaeth adluniol, gyda'r nod o leihau effaith creithiau.

Mae'r ymchwil rhyngddisgyblaethol a gynhelir fel rhan o'r thema hon yn seiliedig ar ymchwil prosiect PATROLs sy'n rhan o ymgyrch Horizon-2020, sydd â'r nod o wella prosesau rheoleiddio a phrofi Nano-ronynnau a gwella ein dealltwriaeth ohonynt. Mae'r Ganolfan Nano Iechyd, sy'n ganolfan rhyngddisgyblaethol gwerth sawl miliwn o bunnau, yn ychwanegu at y gwaith hwn.

Mae'r thema ymchwil hon, sydd â chysylltiad agos ag ymgyrchoedd Menter ac Arloesi'r Ysgol Feddygaeth, yn mynd ati i gysylltu arbenigedd ym maes ymchwil fiofeddygol â diwydiant a'r GIG, gyda'r nod o wella iechyd dynol a datblygu economïau gwybodaeth yn fyd-eang.

Cael Budd Clinigol Drwy Ddatblygiadau Technolegol

Mae'r ymchwil a wneir ym maes Technolegau Meddygol yn arfer dull rhyngddisgyblaethol sy'n dibynnu ar ymchwil o ystod o feysydd, o Beirianneg i Gemeg, ac sy'n dod ag academyddion a chlinigwyr ynghyd gyda'r nod penodol o gael effaith glinigol drwy ddefnyddio a datblygu adnoddau diagnostig a dyfeisiau meddygol a fydd yn gwella canlyniadau clinigol a meddygol i gleifion.

Niwed Dna A Diogelwch Deunyddiaunano

Sut rydym yn asesu diogelwch nanoddeunyddiau? Mae niwed i DNA yn benodol yn peri pryder gan y gall arwain at ddatblygu canser, ac felly mae'n hanfodol asesu gallu unrhyw sylwedd y byddwn yn dod i gysylltiad ag ef i niweidio DNA. Mae'r Athro Shareen Doak a'i thîm wedi bod yn datblygu dulliau wedi'u teilwra o brofi diogelwch nanoddeunyddiau yn ogystal â modelau meinweoedd datblygedig newydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Mae nifer o ddogfennau polisi asesu risgiau rheoleiddiol rhyngwladol ledled y byd wedi defnyddio ein hymchwil i addasu methodoleg profi am niwed i DNA er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer gwerthuso nanoddeunyddiau.

Arwain Y Ffordd Ym Maes Ymchwil Drosi I Fiofarcwyr Ym Maes Gwaedataliad

Mae'r Uned yn un unigryw, bwrpasol sydd â'r holl gyfarpar a'r holl staff sydd eu hangen ar gyfer datblygu, asesu a dilysu biofarcwyr ym maes gwaedataliad, o dan arweinyddiaeth yr Athro Adrian Evans. Mae'r rhaglen waith hon yn cynnwys datblygu biofarcwyr newydd ar gyfer ceulo er mwyn gwella'r broses gwneud diagnosis ac asesu effeithiolrwydd therapiwtig therapïau gwrthgeulo safonol a newydd.

Ymladd Camddefnydd Sylwedd Ag Offer Diogelu Cyffuriau Uwch

Mae mynychder sylweddau seicoweithredol newydd, neu NPS yn ‘faes o bryder cynyddol’. Ymunodd Dr Guirguis â ni ym mis Mawrth 2019, gyda ffocws ymchwil penodol ar NPS. Ynghyd â thîm newydd, mae hi'n sefydlu uned ymchwil i ddadansoddi priodweddau ac effeithiau NPS a sylweddau eraill o gamddefnyddio, i gynyddu dealltwriaeth ohonynt, ac, yn hanfodol, i gynnig cyngor i'r proffesiwn meddygol.

Cyflymu Technolegau Meddygol, O'r Fainc I Erchwyn Y Gwely

Mae ein his-themâu yn rhannu nod gyffredin o gyflymu technolegau meddygol a all gynnig newid byd i waith y clinig. Mae'r rhain yn cynnwys dulliau gweithredu newydd ym maes hemorheoleg, technolegau arloesol ym maes meddygaeth aildyfu, a phrofion newydd ar gyfer mynd i'r afael â risgiau nanoddeunyddiau.

Dr Ed Dudley

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295378
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Adrian Evans

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602182
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Ruth Godfrey

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295915
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Richard Hugtenburg

Athro Cyswllt mewn Ffiseg Feddygol, Medical Physics
+44 (0) 1792 602720
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Ilyas Khan

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602588
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig