Astudio Effeithiolrwydd, Trefniadau A Darpariaeth Gofal

Mae dros 90% o'r cysylltiadau â chleifion a wneir yn y GIG yn digwydd ym maes gofal sylfaenol, gofal brys neu ofal mewn argyfwng, ac mae'r galw yn cynyddu. Rydym yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol o ymchwilio i'r ffordd y gall y rhan hon o'r system gofal iechyd fod mor effeithiol, effeithlon a chynaliadwy â phosibl. Rydym yn cydweithio â phartneriaid yn y GIG i ymgymryd ag ymchwil sy'n ymateb i heriau go iawn – ymchwil sy'n berthnasol i bolisïau, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n cael effaith. Mae Canolfan PRIME wedi cael mwy na £4.8m mewn cyllid seilwaith.

3 ambulances with Mountains in the Background

Meysydd Sy'n Ganolbwynt I'n Hymchwil

Mae ein holl ymchwil yn canolbwyntio'n gryf ar y claf, ac rydym yn gweithio gyda chleifion a'r cyhoedd, o ddatblygu syniadau i fod yn gynigion, drwy ymgymryd ag ymchwil ac yna ddosbarthu canfyddiadau er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf yn y byd go iawn.

Yn rhychwantu'r holl themâu hyn mae ymrwymiadau i ddulliau ymchwil newydd, yn enwedig y defnydd o ddata cysylltiedig dienw, ac i weithio gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil.

Mae ein rhaglen ymchwil wedi arwain at:

  • Effaith ar bolisi ac ymarfer yn y byd go iawn, e.e. gofal 999 ar gyfer pobl sydd wedi cwympo; gofal cyn ysbyty ar gyfer cleifion â chnawdychiad myocardaidd; osgoi derbyniadau brys
  • Datblygiad methodolegol – yn benodol, gweithio gyda HDRUK a thîm SAIL, ymgorffori canlyniadau cysylltiedig dienw mewn astudiaethau ymchwil arbrofol a lled-arbrofol gan gynnwys SAFER 2, PRISMATIC, TIME, STRETCHED
  • Meithrin gallu a datblygu gyrfa yn nhîm Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Abertawe ac mewn gwasanaethau ambiwlans. Rydym wedi cefnogi'r Fforwm Ymchwil EMS 999 ers dros 20 mlynedd, ac rydym yn trefnu cynhadledd flynyddol â chyflwyniadau agored a adolygwyd gan gymheiriaid gan ymchwilwyr sy'n gweithio mewn gofal cyn ysbyty brys
  • Ymchwil yn ymwneud â chanlyniadau
Academic talking through results
  • Denu cyllid seilwaith a phrosiect sylweddol i Brifysgol Abertawe drwy Ganolfan PRIME Cymru ac astudiaethau cysylltiedig.

Llywio Buddsoddiad Darbodus Mewn Gofal Sylfaenol

Mae clinigwyr gofal sylfaenol wedi cael eu hannog i ddefnyddio meddalwedd haenu risg rhagfynegol i'w helpu i dargedu gofal a thrwy hynny leihau derbyniadau brys i'r ysbyty. Gwnaeth ein hastudiaeth werthuso'r dull hwn mewn un ardal yng Nghymru, a nodwyd ei fod yn arwain at fwy o dderbyniadau a chostau uwch. O ganlyniad, newidiodd polisi yng Nghymru, felly nid yw haenu risg rhagfynegol yn cael ei annog mewn gofal sylfaenol, gan arbed £200 miliwn y flwyddyn, yn ôl yr amcangyfrif, drwy osgoi derbyniadau i'r ysbyty, dyddiau a dreulir yn yr ysbyty a chysylltiadau eraill â gofal iechyd.

Gwella Gofal Brys I Bobl Wedi Torri Clun

Mae'r Athro Helen Snooks wedi gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu proses i barafeddygon roi ataliad (anaesthetig) i'r fascia iliaca er mwyn lleddfu poen ar safleoedd galwadau 999 i bobl yr amheuir eu bod wedi torri clun, a phrofi pa mor ddiogel ac ymarferol ydyw. Mae treial dichonoldeb RAPID, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (£230,000) ac a gynhaliwyd yn ardal Abertawe, wedi arwain at ddatblygu ac ariannu treial hapsamplu aml-ganolfan mawr penodol gyda phum safle gwasanaeth ambiwlans ac Adran Brys leded Cymru a Lloegr. Dyfarnwyd £1.8 miliwn i dîm a arweinir gan yr Athro Snooks ac a gefnogir gan Uned Dreialon Abertawe, gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd drwy ei raglen Asesu Technoleg Iechyd i gynnal treial RAPID 2 dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r rhaglen waith hon hefyd wedi cynnwys hyfforddiant ac astudiaethau doethurol, gan arwain at ddyfarnu PhD i Dr Jenna Jones yn 2021.

Ein Harbenigwyr Ymchwil Gofal Sylfaenol A Gofal Brys

Yr Athro Hayley Hutchings

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 513412
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Alison Porter

Athro Cyswllt mewn Ymchwil i’r Gwasanaethau Iechyd, Health Data Science
+44 (0) 1792 602057
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Helen Snooks

Athro mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd, Health Data Science
+44 (0) 1792 513418
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig