Polisi Derbyniadau i’r Ysbyty

Lleihau derbyniadau brys i’r ysbyty, ar gyfer cleifion, gofalwyr a darparwyr iechyd, drwy wella gofal y tu allan i’r ysbyty. 

Mae galwadau i’r gwasanaethau iechyd brys wedi cynyddu o 4.9 miliwn yn 2002/2003 i 9.1 miliwn yn Lloegr yn 2012/2013[1]. Yn draddodiadol, byddai ambiwlans yn ymateb i bob galwad, gan gludo’r claf i’r adran achosion brys yn awtomatig, ond nid yw systemau iechyd yn gallu ymdopi â’r cynnydd yn y galw a’r costau cysylltiedig (mae derbyniadau brys yn costio £13 biliwn y flwyddyn i NHS England – ffynhonnell: Y Comisiwn Archwilio.  Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae tîm yr Athro Snooks ym Mhrifysgol Abertawe wedi ymgymryd â rhaglen ymchwil sylweddol i ganfod dulliau diogel a chost-effeithiol yn lle anfon ambiwlans a chludo cleifion i ysbytai. Mae ymagwedd Snooks a’i chydweithwyr yn seiliedig ar gydweithredu ac ymgysylltu –â llunwyr polisïau, y GIG a chleifion fel partneriaid llawn yn helpu i flaenoriaethu a llunio pob agwedd ar yr ymchwil. Sefydlodd y tîm Fforwm Ymchwil 999 Gwasanaethau Brys y DU (EMS) a grwpiau ymchwil TRUST – sydd ill dau’n cynyddu capasiti mewn ymchwil trawma a gofal heb ei drefnu, yn helpu i bennu blaenoriaethau ymchwil ac yn hybu gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae enw da’r tîm am arweinyddiaeth ym maes gofal brys yn cael ei gyfoethogi drwy gyhoeddiadau, cynhadledd flynyddol 999 EMS sy’n cynnwys siaradwyr rhyngwladol, a chysylltiadau cyhoeddus, er enghraifft eitemau ar raglenni newyddion y BBC ac RTE (Iwerddon).

Mae ymchwil y tîm, sy’n cael ei gefnogi gan grantiau gwerth dros £4 miliwn gan y llywodraeth, yn cynnwys 22 astudiaeth archwilio ymarfer gofal brys a dewisiadau eraill diogel a chost-effeithiol. Maent yn cynnwys:

  • Adolygiad rhyngwladol a ddatgelodd nad oedd y rhan fwyaf o alwadau brys yn bygwth bywyd nac yn ddifrifol, ac nid oedd angen ambiwlans ar 40% ohonynt.
  • Astudiaeth o bobl hŷn a oedd wedi cwympo, a ddangosodd fod cyfran uchel wedi cysylltu â'r gwasanaethau gofal brys o fewn pythefnos, ac a nododd fod y risg o dderbyn i'r ysbyty neu farwolaeth bum gwaith yn fwy.
  • Treialon lle profodd parafeddygon a oedd wedi derbyn hyfforddiant estynedig y gallent ddarparu triniaeth glinigol effeithiol yn lle trosglwyddo claf mewn ambiwlans a thriniaeth mewn adrannau brys i gleifion hŷn â mân gyflyrau acíwt.
  • Treial arall a ddangosodd ei bod yn ddiogel i barafeddygon ddefnyddio teclyn cyfrifiadurol i’w helpu i wneud penderfyniadau ynghylch gofal i bobl hŷn a oedd wedi cwympo a bod hyn yn cynyddu cyfeiriadau i wasanaethau cwympo yn y gymuned.
  • Astudiaethau a ddangosodd fod asesiad a chyngor dros y ffôn i gleifion â mân broblemau yn lleihau cyfraddau anfon ambiwlans brys heb gynyddu risg. 
  • Astudiaeth arall a gadarnhaodd ddiogelwch ac effeithiolrwydd nyrsys NHS Direct yn darparu cyngor i bobl a alwodd wasanaeth ambiwlans brys.



Mae’r ymchwil wedi darparu sylfaen wyddonol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer newid mawr yn y trefniadau cludo i ysbyty mewn ambiwlans. Mae llawer o ddarparwyr gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys rhai rhyngwladol, wedi addasu eu polisïau a’u chynlluniau gweithredu o ganlyniad. Mae holl ddarparwyr gwasanaeth ambiwlans yn y DU, a llawer o wasanaethau tramor sy’n wynebu heriau tebyg, wedi mabwysiadu gweithdrefnau brysbennu, trin a chyfeirio estynedig. Mae hyn wedi cael effaith fawr ar ofal brys. Yn Lloegr, er enghraifft, cynyddodd nifer y galwadau brys lle na fu angen cludo'r claf i'r ysbyty o 480,000 yn 2001 (10%) i 4.1 miliwn yn 2013 (45%) gan arbed £60 miliwn o ganlyniad i osgoi teithiau mewn ambiwlans (ffynhonnell: Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  Mae hyn hefyd yn golygu bod mwy o ambiwlansys ar gael i’r rhai sydd yn yr angen mwyaf, lleihau salwch a marwolaethau y gellid eu hosgoi, ac yn lleihau’r costau, y straen a’r anhwylustod i gleifion a’u teuluoedd o dderbyn claf i’r ysbyty’n ddiangen.

Defnyddiwyd gwaith gwerthusol yr Athro Snooks yn yr adolygiad strategol o Wasanaethau Ambiwlans y GIG yn Lloegr, y catalydd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau ambiwlans yn y saith mlynedd diwethaf. Mae gwaith Snooks wedi ein helpu i foderneiddio gwasanaethau ambiwlans, proffesiynoli staff y gwasanaeth ambiwlans, a darparu gofal sy’n fwy effeithlon i’r GIG ac yn fwy priodol i gleifion, gan gynnal safonau diogelwch.

Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Ambiwlans Cenedlaethol (2004-12); Prif Weithredwr, Gwasanaeth Ambiwlans Llundain (2000-12)