Gastroenteroleg

Dylanwadu ar bolisi cenedlaethol er mwyn gwella trefniadau ar gyfer darparu gwasanaeth a gofal cleifion ym maes gastroenteroleg

Yn dilyn dadansoddiad o’n llwyth gwaith clinigol ac amseroedd aros mewn gastroenteroleg, daethom i’r casgliad bod angen dulliau gweithredu newydd er mwyn sicrhau rheolaeth amserol a phriodol ar gyfer cleifion ag anhwylderau gastroberfeddol, yn enwedig clefyd llid y coluddyn a gwaedu gastroberfeddol.  Ar gyfer clefyd llid y coluddyn, sy’n anhwylder cronig na ellir rhagweld pryd y bydd yn digwydd eto, rydym yn cynnig gwasanaeth mynediad agored fel bod modd adolygu cleifion ar adeg briodol pan fydd eu hanhwylder yn ailgychwyn, a buom yn archwilio effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd hyn mewn hap-dreial wedi’i reoli.  Dangoswyd gostyngiad yn nifer y cleifion allanol yn sgil mynediad agored, bod y dull hwn yn well gan gleifion a meddygon teulu, ac nid oedd yn cael effaith niweidiol ar ganlyniadau cleifion.  Daethom hefyd i’r casgliad na allai mynediad agored weithio’n effeithiol heb nyrs wedi’i hyfforddi mewn clefyd llid y coluddyn a fyddai’n gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ac yn gwneud penderfyniadau brysbennu synhwyrol.  O ganlyniad i’r dystiolaeth hon, mae ymagwedd mynediad agored at ofal dilynol wedi cael ei mabwysiadu’n helaeth ym maes clefyd llid y coluddyn. 

Ein hamcan wrth gyflwyno nyrsys arbenigol fel mater o drefn mewn ymarfer clinigol oedd gwneud y swydd mor ddeniadol â phosib, ochr yn ochr â hyfforddiant endosgopi, ar adeg pan mai meddygon oedd yn gyfrifol am y triniaethau hyn yn y rhan fwyaf o ysbytai.  Er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd nyrsys yn gwneud endosgopi, aethom ati i gynnal yr hap-dreial wedi’i reoli cyntaf, a’r unig un o’i fath, i gymharu endosgopi gan nyrsys a chan feddygon. Dangosodd yr hap-dreial nad oedd y canlyniadau yn dilyn endosgopi gan nyrsys yn wahanol i’r rhai yn dilyn endosgopi gan feddygon, ond bod nyrsys yn sylweddol fwy trylwyr na meddygon wrth archwilio’r oesoffagws a’r stumog, ac wrth gadw cofnodion.  Yn ogystal, roedd cleifion yn fwy bodlon ar ôl endosgopi gan nyrs.

Mewn astudiaethau eraill, rydym wedi dadansoddi data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd yng Nghymru a Lloegr i ddangos bod y gyfradd marwolaethau’n llawer uwch ar gyfer cleifion â chlefyd llid y coluddyn sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn annisgwyl, ac sy’n ddigon gwael fel bod angen tynnu’r coluddyn, na phe bai’r driniaeth wedi’i chynllunio.  Ar ben hyn, ar ôl tair blynedd, mae cyfradd marwolaethau cleifion nad ydynt yn cael colectomi yn uwch na’r rhai sydd wedi cael colectomi, unwaith eto ar ôl tair blynedd.  Mae’r dystiolaeth hon wedi arwain at gryn drafodaeth a newid mewn ymarfer ynghylch amlder ac amseriad colectomi ar gyfer clefyd llid y coluddyn, yn enwedig colitis briwiol.  Yn ogystal â’r dystiolaeth ar gyfer nyrsys arbenigol yn darparu gofal dilynol ar sail mynediad agored, rydym wedi gweld cynnydd dramatig yn nifer y nyrsys arbenigol sy’n gwneud endosgopi ac yn darparu gofal dilynol arbenigol i gleifion â chlefyd llid y coluddyn.

Mae ein dadansoddiad o ddata rheolaidd hefyd wedi cadarnhau’r gyfradd farwolaeth uwch ymhlith cleifion sy’n cael eu derbyn yn annisgwyl ar y penwythnos neu ar wyliau’r banc, yn yr achos hwn â gwaedu yn y llwybr gastroberfeddol uchaf.  Mae hyn wedi arwain at argymhellion gan Gymdeithas Gastroenteroleg Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon y dylid sefydlu gwasanaeth y tu allan i oriau ar gyfer cleifion â gwaedu yn y llwybr gastroberfeddol uchaf.