Effaith Ymchwil Yr Ysgol Feddygaeth

Ers ei sefydlu yn 2004, mae'r Ysgol Feddygaeth wedi rhoi pwyslais ar gael effaith ar ymarfer clinigol ac iechyd. Rydym yn gwneud hyn drwy arloesi, technoleg a rhagoriaeth ymchwil. Rydym yn hynod o ryngddisgyblaethol yn ein hymagwedd, ac mae hyn wedi effeithio ar iechyd, lles a chyfoeth byd-eang, ystyrir bod ein heffaith ymchwil yn rhagorol o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd (REF2021 a REF2014).

Niwed Dna A Diogelwch Deunyddiaunano

Sut rydym yn asesu diogelwch nanoddeunyddiau? Mae niwed i DNA yn benodol yn peri pryder gan y gall arwain at ddatblygu canser, ac felly mae'n hanfodol asesu gallu unrhyw sylwedd y byddwn yn dod i gysylltiad ag ef i niweidio DNA. Mae'r Athro Shareen Doak a'i thîm wedi bod yn datblygu dulliau wedi'u teilwra o brofi diogelwch nanoddeunyddiau yn ogystal â modelau meinweoedd datblygedig newydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Mae nifer o ddogfennau polisi asesu risgiau rheoleiddiol rhyngwladol ledled y byd wedi defnyddio ein hymchwil i addasu methodoleg profi am niwed i DNA er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer gwerthuso nanoddeunyddiau.

Rheoli Heintiau Ffwngaidd

Mae heintiau ffwngaidd yn costio miliynau i'r diwydiant amaethyddol bob blwyddyn, o ganlyniad i gnydau wedi'u difrodi ac wedi'u dinistrio. Daw ffwngleiddiaid yn llai effeithiol wrth i ffyngau targed ddatblygu ymwrthedd iddynt. Ond mae'r angen i ddefnyddio mwy o ffwngleiddiaid o hyd yn arwain at niwed ecolegol hefyd.

Roedd yn bwysig datblygu ffwngleiddiad a fyddai'n llwyddo i ddinistrio'r ffwng targed heb amharu ar brosesau y tu mewn i'r lletywr, boed hynny'n blanhigyn neu'n anifail. Drwy gymryd y cam hwn, byddai ffwngleiddiaid yn fwy effeithiol, a byddai llai o niwed ecolegol

Young people

Iechyd Meddwl Plant A Phobl Ifanc

Mae hanner problemau iechyd meddwl wedi'u sefydlu erbyn 14 oed, ac mae tri chwarter ohonynt wedi'u sefydlu erbyn 24 oed. O ystyried y cynnydd mewn gorbryder, iselder, hunan-niweidio a hunanladdiad a welwyd dros y degawd diwethaf, nod ein rhaglen ymchwil amlddisgyblaethol yw trawsnewid dealltwriaeth o bobl ifanc ag iechyd meddwl gwael, yn ogystal â thrawsnewid y gofal a gânt a'u canlyniadau. Gyda chyllid o fwy na £3m a gafwyd dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Llwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Rydym yn datblygu ein gwaith mewn partneriaeth â phobl ifanc, ac yn troi ein hymchwil yn bolisïau ac ymarfer yn gyflym, gan gynnwys llunio adnoddau ar gyfer ysgoliongweithwyr ieuenctid a chanllawiau ymarfer.

Colesterol Mewn Iechyd A Chlefydau Dynol

Sylwedd brasterog yw colesterol, a wneir gan bob cell ac a geir mewn rhai bwydydd.  Fel un o'r moleciwlau mwyaf cyffredin yn y corff dynol, mae'n chwarae rôl hanfodol yng ngweithrediad y corff, ac yng ngweithrediad yr ymennydd, y nerfau a'r afu/iau yn benodol. Mae gormod o golesterol yn gysylltiedig â chlefydau sy'n nodweddiadol o'r 21ain ganrif gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd yr afu/iau a diabetes. Bydd dealltwriaeth well o'r ffordd y mae celloedd yn rheoli eu colesterol yn arwain at brosesau gwell o ran gwneud diagnosis a thriniaethau posibl ar gyfer y clefydau hyn, a chlefydau eraill sy'n gysylltiedig â nhw.

Osgoi Ymyriadau Meddygol Diangen

Mae nifer o feddygfeydd ledled y DU wedi dechrau defnyddio meddalwedd sy'n nodi cleifion sy'n wynebu risg uchel o gael eu derbyn i'r ysbyty ar frys drwy gyfrifo "sgôr risg" ar gyfer pob claf unigol ar sail achosion blaenorol o gael eu derbyn i'r ysbyty, cyflyrau sylfaenol a meddyginiaeth. O ganlyniad i'r ymyriad hwn – a elwir yn bennu lefel risg ragfynegol – gall meddygon teulu nodi pobl a allai gael budd o ymyriad cynnar er mwyn atal derbyniadau i'r ysbyty nas cynlluniwyd ( ar frys)

Gwenwyneg Enetig

Llun Gwenwyneg Enetig

Cyflwyno’r cysyniad o lefelau 'diogel' o gysylltiad â genowenynau a sut mae hyn wedi bod o fudd i gleifion a'r diwydiant fferyllol

Rydym wedi dangos nad yw lefelau isel iawn o gysylltiad â chyfryngau sy’n niweidio DNA (carsinogenau) yn berthnasol o safbwynt biolegol bob amser oherwydd ein mecanweithiau amddiffynnol cynhenid. Mae hyn yn golygu nad yw lefelau isel iawn o halogiad carsinogenaidd yn peri pryder mawr o safbwynt iechyd, a bod hyn â goblygiadau pwysig ar gyfer datblygu cyffuriau. Mae’r darganfyddiadau hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn byw mewn amgylchedd lle mae lefel isel o gyfryngau sy’n niweidio DNA, megis ocsigen, golau haul a chyfryngau deietegol ac yn y blaen, o'n cwmpas ym mhobman.

Derbyniadau Brys i'r Ysbyty

Ambiwlans

Lleihau derbyniadau brys i'r ysbyty ar gyfer cleifion, gofalwyr a darparwyr iechyd, drwy wella gofal y tu allan i’r ysbyty. 

O ganlyniad i fabwysiadu ymchwil i weithdrefnau eraill yn lle anfon ambiwlans a chludo claf i’r ysbyty, llwyddwyd i leihau derbyniadau brys i’r ysbyty ac arbed costau, heb beryglu profiad, diogelwch nac ansawdd gofal cleifion.

Gastroenteroleg

Endosgop

Dylanwadu ar bolisi cenedlaethol er mwyn gwella trefniadau ar gyfer darparu gwasanaeth a gofal cleifion ym maes gastroenteroleg

Mae’r astudiaeth achos effaith hon yn dangos effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd dau ddatblygiad newydd yn Abertawe: mynediad agored i wasanaethau ysbyty i gleifion â chlefyd llid y coluddyn; a mwy o gyfrifoldeb i nyrsys, yn enwedig fel endosgopyddion.

Gwybodeg Iechyd

Llun Gwybodeg Iechyd

Datblygu a gweithredu safonau cenedlaethol i wella strwythur a chynnwys cofnodion cleifion

Mae cofnodion cleifion yn ategu'r gwaith o ddarparu gofal iechyd. Maent yn cynnwys gwybodaeth sy’n sail i ddarparu gwasanaeth, archwilio ac ymchwil. Dangosodd astudiaethau a gynhaliwyd yn Abertawe rhwng 2000 a 2011 am y tro cyntaf fod cofnodion y GIG yn gyfyngedig o ran ansawdd a defnydd. Buom yn cydweithio wedyn â Choleg Brenhinol y Meddygon i ddatblygu safonau cenedlaethol ar gyfer strwythur a chynnwys cofnodion cleifion.