Ymchwilwyr

Mae dyfeisiau yn un o’r pedair thema ymchwil strategol yn yr Ysgol Feddygaeth. Gan adeiladu ar ddatblygiadau ym maes peirianneg fiofeddygol yn Abertawe, mae’r thema’n cynnwys mewnblannu, dyfeisiau cyfrifiadol a biolegol, yn ogystal â datblygiadau methodolegol ym maes sbectrometreg màs.

Mae’r thema ymchwil hon, sydd â chysylltiad agos â chynlluniau Menter ac Arloesi'r Ysgol Feddygaeth, yn cysylltu arbenigedd yr Ysgol ym maes ymchwil biofeddygol â diwydiant â'r nod o wella iechyd dynol a datblygu economïau gwybodaeth yn fyd-eang. 

Mae’r ymchwil presennol yn seiliedig ar astudiaethau labordy, MRI a threialon clinigol â chymwysiadau mewn astudiaethau celloedd bonyn, meddygaeth aildyfu, canser, cardioleg, gwaedataliad a chanfod tolchenni gwaed.

 

Is-Themâu Ymchwil

Ceir nifer o is-themâu yn Thema Ymchwil Dyfeisiau’r Ysgol Feddygaeth, yn ogystal â chanolfannau ymchwil gan gynnwys y Ganolfan NanoIechyd, ein Grŵp Sefydliad Prydeinig y Galon a Meddygaeth Ailadeiladol ac Atgynhyrchiol.

Cyrsiau Perthnasol