Ein Hymchwil Ym Maes Niwrowyddoniaeth

Mae ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth yn yr Ysgol Feddygaeth yn cynnwys ymchwil labordy i'r prosesau biolegol sy'n sail i weithrediad y system nerfol ac ymchwil glinigol i anhwylderau niwrolegol gan gynnwys Sglerosis Ymledol, Clefyd Parkinson ac Epilepsi. Nod ein gwaith yw darparu dealltwriaeth well o weithrediad yr ymennydd er mwyn helpu yn y gwaith o wneud diagnosis o glefydau niwrolegol a'u trin.

Neuroscience Lab Researchers.

Meysydd Sy'n Ganolbwynt I'n Hymchwil

Ceir 9.9 miliwn o achosion newydd o niwroddirywiad bob blwyddyn a 7,000 o achosion newydd o sglerosis ymledol yn y DU, ac mae mwy na 10 miliwn o bobl yn byw â chlefyd Parkinson ledled y byd. Gan arfer dull rhyngddisgyblaethol o weithio gydag ymchwilwyr gwyddonol a chlinigwyr, y prif faes sy'n ganolbwynt i'n hymchwil yw meithrin dealltwriaeth well o'r clefydau hyn yn y gobaith o ddod o hyd i therapïau newydd a thriniaethau gwell i gleifion.

Canlyniadau Ymchwil

Ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth a arweinir gan academyddion yn yr Ysgol Feddygaeth i ddeall y prosesau sylfaenol sydd wrth wraidd gweithrediad y system nerfol pan fydd yn iach, a phan geir clefyd. Mae ein timau ymchwil yn cydweithio er mwyn adnabod nodweddion moleciwlaidd a chellol penodol clefydau niwroddirywiol. Rydym yn gweithio'n agos gyda disgyblaethau eraill, gan gynnwys niwrolegwyr, peirianwyr, cemegwyr, a gwyddonwyr data, yn ogystal â phartneriaid mewn diwydiant er mwyn cyflymu gwaith arloesol newydd ym maes niwrowyddoniaeth.

Neuroscience research lab images
MS Image

Meningeal Inflammation And Cortical Demyelination In Acute Multiple Sclerosis

Mae ein canlyniadau'n dangos bod niwed i'r myelin cortigol, colli niwronau a llid ym mhilenni'r ymennydd yn nodweddion penodol patholegol Sglerosis Ymledol acíwt, sy'n ategu'r angen i adnabod biofarcwyr cynnar y batholeg hon er mwyn rhagweld canlyniadau'n well.

Image under microscope

Unacylated-ghrelin impairs neurogenesis and memory, and is altered in parkinson’

Gwyddom fod hormon y coludd a elwir yn asyl-grelin (AG) yn hybu niwrogenesis o'r hipocampws mewn oedolion.  Rydym yn cyfuno modelau cnofilod in vitro ac in vivo, ar y cyd â dadansoddiad o blasma dynol, er mwyn dangos bod grelin heb ei asyleiddio (UAG) yn amharu ar niwrogenesis, a bod cymhareb yr AG:UAG sy'n cylchredeg yn llai mewn achosion o ddementia Parkinson. Mae'r canfyddiadau hyn yn nodi dull newydd o wneud diagnosis o ddementia mewn clefyd Parkinson ac yn cynnig targedau newydd ar gyfer cyffuriau.

MS Images

Dull Newydd I Fapio Metabolaeth Colesterol Mewn Ymennydd

Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, wedi datblygu technoleg newydd i ganfod lleoliad colesterol a'i fetabolynnau ym meinweoedd yr ymennydd, a faint ohonynt sydd. Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences of the USA, yn dangos prif leoliadau colesterol yn yr ymennydd a pha foleciwlau y gellir eu trosi iddo.

Dr Roberto Angelini

Darlithydd, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Jeffrey Davies

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602209
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Alwena Morgan

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602051
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Owen Pickrell

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Medicine
+44 (0) 1792 295134
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig