Researcher in Lab

Troi Darganfyddiadau Biofeddygol yn Driniaethau Clinigol ar garlam

Mae troi ymchwil yn therapïau ac yn driniaethau arloesol newydd yn un o'r ffactorau sy'n ysgogi'r thema ymchwil Biofarcwyr a Genynnau yn yr Ysgol Feddygaeth.

Mae gwyddonwyr ymchwil yn arfer amrywiaeth eang o ddulliau, gan gynnwys gwaith labordy, sbectrometreg màs, modelu cyfrifiadurol ac astudiaethau epidemiolegol, er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ymarferol o ran nodi a defnyddio biofarcwyr.

Gan weithio gyda Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru ac ymchwilwyr arbenigol o bedwar ban byd, mae'r Ysgol Feddygaeth yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer clefyd y galon ac yn helpu i wella'r broses o reoli cleifion yn glinigol. Mae gan yr Ysgol Feddygaeth bartneriaethau cryf â chlinigwyr, peirianwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol o bob rhan o Brifysgol Abertawe, gan gadarnhau ei statws fel y cartref i ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru.

Gyda mwy nag 20 o Brif Ymchwilwyr, mae'r Ysgol Feddygaeth hefyd yn mynd ati i droi darganfyddiadau biofeddygol yn driniaethau clinigol ar gyfer clefydau pwysig eraill, gan gynnwys anhwylderau niwrolegol, diabetes a  chanser, gan ganolbwyntio'n gryf ar nanodocsicoleg.

Uchafbwyntiau Gwaith Ymchwil Biofarcwyr a Genynnau

Bu thema Biofarcwyr a Genynnau yn allweddol i ran helaeth o'n gwaith cymhwyso ymchwil o ran gwella canlyniadau i gleifion a rhoi mewnwelediad i weithwyr proffesiynol meddygol ac iechyd y cyhoedd.

O ganlyniad i'r gwaith a wnaed gennym i nodi, deall a defnyddio Biofarcwyr, ynghyd â'n harbenigedd blaenllaw ym maes Genynnau, gallwn barhau i gael effaith sylweddol ar y prif heriau i iechyd ledled y byd, drwy adeiladu ar ein cyfraniadau arloesol i ymchwil ym meysydd tocsicoleg enetig, prosesau atgyweirio DNA, a geneteg microbau ac organynnau celloedd.

Effaith Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig

Blood glucose monitor being used

Hunanfonitro Glwcos Yn Y Gwaed Mewn Diabetes Math 2 Na Chaiff Ei Drin Ag Inswlin

Mae gwerth Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed i bobl â diabetes math 2 na chaiff ei drin ag inswlin wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer, ac mae canllawiau presennol y DU yn cyfyngu ar y defnydd ohono. Gwnaethom arwain astudiaeth ledled Cymru a Lloegr i werthuso ‘Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig’ gan ddangos ei fod yn gallu gwella'r ffordd y rheolir glwcos yn y gwaed mewn modd sy'n arwyddocaol yn glinigol. Gwelsom hefyd ei fod yn gwella ansawdd bywyd i unigolion. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod Hunanfonitro Glwcos yn y Gwaed mewn modd Strwythuredig yn ddefnyddiol ar gyfer hunanreoli diabetes.

Ffocws Ymchwil Graidd Ar Fiofarcwyr A Genynnau

Daw'r rhan fwyaf o'r thema Biofarcwyr a Genynnau o bedair is-thema allweddol a phenodol. Mae'r is-themâu hyn yn cyfrannu at y diwylliant cydweithredol ac arloesol sy'n nodweddiadol o ymchwil yr Ysgol Feddygaeth, ac mae pob un ohonynt yn denu buddsoddiadau sylweddol a llawn bri, yn ogystal â nifer helaeth o fyfyrwyr PhD a myfyrwyr ymchwil eraill.

Dr Roberto Angelini

Darlithydd, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Steve Conlan

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295386
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Jeffrey Davies

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602209
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Christopher George

Athro, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Deya Gonzalez

Athro, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295384
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Michael Gravenor

Athro, Health Data Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Alwena Morgan

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 602051
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Owen Pickrell

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Medicine
+44 (0) 1792 295134
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Dr Sarah Prior

Dr Sarah Prior

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro David Skibinski

Athro Emeritws (Meddygaeth), Medicine
+44 (0) 1792 295390

Yr Athro Jeffrey Stephens

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Ian Pallister

Athro Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig