Mae cyn academydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe wedi cael ei goffáu mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd gan Gymdeithas Sbectrometreg Màs Prydain.

Bu farw yr Athro Dai Games, cyn Gyfarwyddwr Cyfleuster Sbectrometreg Màs Cenedlaethol yr EPSRC yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn 2018.  Bu'r Athro Games yn hyrwyddo datblygiad Sbectrometreg Màs Cromatograffaeth Hylif (LCMS) a'r defnydd ohono, a thechnegau Sbectrometreg Màs cyfunol yn gyffredinol.

Cynhaliwyd y cyfarfod yng Ngholeg y Brenin Llundain ar 9 Ebrill ac roedd yn anrhydeddu etifeddiaeth yr Athro Games a Grŵp Games. Roedd ymarferwyr profiadol a rhai newydd i'r maes yn bresennol.

Cyfrannodd Grŵp Games at etifeddiaeth wyddonol fyd-eang sy'n parhau i fod yn sail i wyddoniaeth ddadansoddol hyd heddiw. Yn ogystal, bu'r grŵp yn mentora ac ysbrydoli sawl carfan o fyfyrwyr ymchwil yn ei ffordd unigryw ei hun.

Dywedodd Cymdeithas Sbectrometreg Màs Prydain: "Roedd gan Grŵp Games allu di-ffael i adnabod potensial i ddatblygu talent, mewn ymgeiswyr nad oedden nhw, o reidrwydd, yn cydymffurfio â'r tueddiadau academaidd ar y pryd. Roedden nhw wastad yn awyddus i recriwtio a galluogi rhai oedd yn gallu gweithio o'u pen a'u pastwn eu hunain. Recriwtiodd y grŵp dîm hynod amrywiol ac roedden nhw'n arwain y ffordd i eraill wrth wneud hynny yn y 1970/80au. Yn driw i'r ethos hwnnw, roedd y cyfarfod yn annog cyfranogiad Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn gryf iawn."

Cwblhaodd yr Athro Games PhD mewn Cemeg yng Ngholeg y Brenin, yn ogystal â gwaith ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol McMaster, Hamilton, Canada. Yn dilyn hynny, fe'i penodwyd fel darlithydd yn adran gemeg Prifysgol Caerdydd, lle cynorthwyodd i ddatblygu ei gwaith ym maes cemeg organig, gan ddod yn gyfrifol am redeg ei hadran sbectrometreg màs.  Ym 1989, daeth yn Gyfarwyddwr yr Uned Ymchwil Sbectrometreg Màs ym Mhrifysgol Abertawe, gan ehangu a datblygu ei gwaith yn llwyddiannus nes iddo ymddeol yn 2003.