Mae pob un o'n chwe gradd llwybr yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. Os na chawsoch chi le ar gwrs Meddygaeth a'ch bod yn gwneud cais prifysgol drwy'r system Glirio, mae ein llwybrau gradd yn ddewis delfrydol i chi.
Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn y gallai pob llwybr ei gynnig isod:
5ed dewis delfrydol
Mae UCAS yn mynnu bod ymgeiswyr sy’n gwneud cais am gwrs Meddygaeth israddedig yn dewis 5ed dewis nad yw’n ymwneud â Meddygaeth ar eich cais UCAS.
Mae ein Llwybrau i Feddygaeth wedi eu dylunio’n arbennig i weithredu fel y 5ed dewis, gyda gradd a fydd yn eich helpu i gyflawni eich uchelgais o astudio Meddygaeth.
Mae myfyrwyr sy'n dewis llwybr i feddygaeth yn elwa ar fodiwlau pwrpasol a lleoliadau gwaith sy'n ymwneud â gofal iechyd. Cânt eu paratoi'n arbenigol ar gyfer gwneud cais i'n cwrs Meddygaeth i Raddedigion ochr yn ochr â chyfweliad gwarantedig ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion.
Rydym yn gwarantu cyfweliad i raddedigion sydd ar ein Llwybrau israddedig penodol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, cyhyd a'u bod yn cyrraedd y gofynion mynediad pan yn gwneud cais, ac yn cwblhau'r llwybr israddedig yn llwyddiannus.
Mae cwblhau'r Llwybr israddedig yn llwyddiannus yn golygu:
Mae'n ofynnol wrth wneud cais fod gan fyfyrwyr sgôr GAMSAT dilys (neu MCAT os ydynt yn Fyfyrwyr rhyngwladol) neu eu bod yn disgwyl sgôr dilys
Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd y meini prawf mynediad yn gymwys am Gyfweliad Gwarantedig yn eu blwyddyn olaf, ond dim ond unwaith y caiff fyfyrwyr ddefnyddio'r Cyfweliad Gwarantedig, yn eu blwyddyn olaf o astudio.