Croeso gan Bennaeth ein Hysgol

Croeso gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Cyn i chi gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau Ôl-Raddedig Clinigol, beth am gofrestru i'n Diwrnod Agored Rhithwr?

Beth allwch chi ei astudio gyda ni?

Ni waeth a fyddwch yn penderfynu dilyn gradd ôl-raddedig a addysgir i ddilyn eich diddordebau, gwella'ch gyrfa neu gymryd cyfeiriad newydd, mae'n cyrsiau gwyddorau bywyd ni'n cyd-fynd â bywydau prysur gweithwyr proffesiynol. Rydym ni wedi dylunio ein cyrsiau ôl-raddedig a addysgir i'ch helpu i gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa, neu fynd ymhellach gyda'ch astudiaethau academaidd. Mae'n fframwaith modiwlaidd yn eich galluogi i astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, ar-lein, ar y campws neu mewn modd cyfunedig. 

Os ydych chi’n gweithio mewn rôl gofal iechyd sy’n cynnwys dadansoddi data iechyd, gallai’r radd MSc Gwyddor Data Iechyd hon roi mynediad i chi i un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

  • Opsiynau MSc, PGDip a PGCert
  • Dechrau ym mis Hydref neu Ionawr
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth i ddod yn Wyddonydd Data Iechyd
  • Dysgwch oddi wrth y gweithwyr proffesiynol y tu ôl i'r Gronfa Ddata Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL)

A ydych chi'n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn dymuno cynyddu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau mewn gwybodeg iechyd? Dyma un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a gall ein gradd MSc Gwybodeg Iechyd wella eich rhagolygon gyrfa. 

  • Opsiynau MSc, PGDip a PGCert
  • Dechrau ym mis Hydref neu Ionawr
  • Addysg arbenigol yn yr arbenigedd gofal iechyd sy'n tyfu gyflymaf
  • Cysylltiadau cryf â’r GIG a sefydliadau yn y sector Gwyddor Bywyd

A ydych chi eisiau defnyddio eich gradd mewn bioleg, geneteg, biocemeg, fferylliaeth, peirianneg feddygol neu ffiseg? Gallwch wella'ch rhagolygon gyrfa drwy astudio MSc Nanofeddygaeth, gan ryngwynebu gyda meddygaeth glinigol, fferylleg, meddygaeth adfywiol a nano(geno)docsicoleg.  

  • Opsiynau MSc, PGDip a PGCert
  • Dechrau ym mis Hydref neu Ionawr
  • Ennill sgiliau a’r hyder i chi ym maes arweinyddiaeth, rheoli, addysg ac ymchwil, tri o bedwar conglfaen o uwch ymarfer
    clinigol
  • Ymgymryd ag ymchwil gydweithredol ar y cyd â diwydiant, gan gynnwys cwmnïoedd  dyfeisiau meddygol technegol uchel yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd yr Ysgol Feddygaeth

Os ydych chi'n fyfyriwr peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol, bydd ein gradd MSc Ffiseg Ymbelydredd Meddygol yn rhoi'r gwybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o agweddau sylfaenol ar ddefnyddio ymbelydredd mewn meddygaeth i wella'ch rhagolygon gyrfa. 

  • MSc amser llawn neu rhan-amser dros 1 i 3 blwyddyn
  • Dechrau ym mis Hydref neu Ionawr
  • Wedi'i achredu gan y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth (IPEM)
  • Gyfarwyddyd ymarferol o'r offer sy'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol mewn lleoliad ysbyty, gan gynnwys cyfleusterau MRI a CT o'r radd flaenaf, a chyflymyddion unionlin meddygol

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol gofal iechyd sydd eisoes yn gweithio yn y GIG, neu os ydych chi’n raddedig sydd am weithio mewn lleoliad clinigol, bydd y radd MSc Meddygaeth Genomeg hon yn gwella’ch rhagolygon gyrfa. 

  • Opsiynau MSc, PGDip a PGCert
  • Dechrau ym mis Ionawr
  • Seiliedig ar gwricwlwm Addysg Iechyd Lloegr, GIG Lloegr a Genomics England LTD
  • Lleoedd wedi’u hariannu ar gael i staff cymwys y GIG drwy Addysg i Weithluoedd a Gwasanaethau Datblygu

Dolenni Cyflym

Dolenni Cyflym

Ewch ar Daith Rithwir ac archwiliwch drosoch eich hun

Edrychwch ar daith o 360o o'n  campws a llety...