GRADDAU RHYNGOSODOL

Mae gradd ryngosodol yn cynnwys blwyddyn ychwanegol o astudio ar ben eich rhaglen radd mewn Meddygaeth ac mae’n gyfle i archwilio maes newydd yn fanylach, ennill gwybodaeth newydd a meithrin sgiliau newydd.

Mewn rhai ysgolion meddygaeth, mae hyn yn orfodol, ond mewn llawer o ysgolion eraill mae’n ddewisol.

Er nad oes rhaid gwneud blwyddyn ychwanegol ar ein rhaglen Feddygaeth, rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i ystyried y dewis hwn.

Mae profiad wedi dangos y bydd y rhai sydd wedi cymryd gradd ryngosodol yn ennill gwybodaeth ddyfnach am yr wyddoniaeth ategol yn ogystal â dealltwriaeth well am eu hastudiaethau clinigol.

Cysylltwch â ni

E-bostiwch study@abertawe.ac.uk