Fel myfyriwr yn Abertawe, cewch gyfle i archwilio rhai o gyfrinachau llai adnabyddus y ddinas! Er bod ein dinas yn fach, mae'n gartref i nifer o drysorau cudd gwych. Dyma saith trysor cudd gorau'r Ysgol Feddygaeth...

1 - Traeth Crawley

Dechreuwn ein rhestr gydag un o draethau llai adnabyddus penrhyn Gŵyr. I gyrraedd y traeth tywod bach hwn, sydd nesaf at draeth mwy Bae Oxwich, rhaid cerdded ar hyd llwybr drwy goetir. Mae'n werth mentro o'r llwybrau mwy poblogaidd am gyfle i edmygu harddwch arfordir Gŵyr o gilfan heulog tawel.

1 - Traeth Crawley

2 – Cinema and Co.

Mae Abertawe'n gartref i nifer o leoliadau adloniant annibynnol. Os ydych am noson ychydig yn wahanol yn y sinema, Cinema and Co yw'r lle i chi. Mae seddau esmwyth mawr, ffilmiau newydd a chlasurol, siop goffi a nosweithiau cerddoriaeth fyw yn golygu bod ymweliad â'r lle hwn yn hanfodol i lasfyfyrwyr.

2 – Cinema and Co.

3 – Grape and Olive yn nhŵr Meridian

Os yw golygfeydd godidog at eich dant, rhaid i chi fynd i'r Grape and Olive. Wrth i chi eistedd ar frig Tŵr Meridian, adeilad uchaf Cymru, bydd golygfeydd gwych o Gwm Tawe, Canol y Ddinas a Dyfnaint, hyd yn oed, ar bob ochr. Eisteddwch mewn bwth am olygfeydd gwych dros y môr drwy'r ffenest o'r llawr i'r nenfwd.

3 – Grape and Olive yn nhŵr Meridian

4- Marchnadoedd y Marina, Uplands a'r Mwmbwls

Yn gwerthu cynnyrch ffres lleol a Chymreig, mae marchnadoedd misol yn cael eu cynnal yn y Marina, Uplands a'r Mwmbwls. Lle gwych i gael blas ar fwyd Cymreig lleol, crefftau a rhoddion hyfryd ac archwilio'r gymdogaeth.

4- Marchnadoedd y Marina, Uplands a'r Mwmbwls

5 – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ychydig yn bellach o'r ddinas, ond mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn werth y daith yn bendant. Ar ôl gyrru am ychydig dros awr, byddwch yn cyrraedd un o'r tirweddau mwyaf gwefreiddiol yng Nghymru. O ogofeydd naturiol a theithiau cerdded hyfryd (mae'n werth ymweld â Sgwd Henrhyd i weld yr ogof ystlumod o'r ffilm The Dark Knight Rises), i barciau anturiaeth a chwaraeon adrenalin uchel, mae gan Fannau Brycheiniog rywbeth i bawb.

5 – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

6 – Teithio'r afon ar y copper jack

Ewch am daith hanesyddol ar hyd afon Tawe ar y Copper Jack a dysgu am hanes diwydiannol Abertawe. Gallwch arsylwi ar fywyd gwyllt, dysgu am hanes Abertawe pan oedd yn ganolfan y diwydiant copr byd-eang a mwynhau'r awyrgylch hamddenol.

6 – Teithio'r afon ar y copper jack

7 - Siop Goffi Brynmill

Un o ffefrynnau'r myfyrwyr! Bydd taith gerdded fer o Singleton Campws drwy'r parc yn mynd â chi i Siop Goffi Brynmill. Mae'r siop goffi gyfeillgar hon yn cynnig rhywbeth at ddant pob myfyriwr, gan gynnwys dewis anferth o goffi, digon o opsiynau feganaidd (gan gynnwys teisennau ffres blasus) a chrempogau Americanaidd ar ddydd Sadwrn, felly pwy na fyddai'n dwlu ar y lle hwn?!

7 - Siop goffi Brynmill