Students walking through the park

Ni allwn aros i'ch croesawu ym mis Medi

Ni allwn aros i'ch croesawu i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ym mis Medi… a allwch chi gredu mai dim ond 12 wythnos i ffwrdd yw Wythnos y Glas?!

Mae symud i ffwrdd o gartref yn amser cyffrous ac mae gan Abertawe amrywiaeth o opsiynau llety i chi ddewis ohonynt.  Mae ystafelloedd ar gael sydd wedi'u haddasu ar gyfer y bobl hynny sydd â gofynion arbennig, gan gynnwys cadeiriau olwyn ac mae ardaloedd dynodedig ar gyfer y rhai sydd eisiau bod gyda phobl o'r un anian - gan gynnwys cyd-siaradwyr Cymraeg a'r rhai y mae'n well ganddynt ofod di-alcohol neu dawel.

P'un a hoffech fyw yn ein neuaddau clyd ar y campysau, yn ein pentref myfyrwyr maestrefol, neu yn un o'r adeiladau preifat gerllaw sydd wedi'u lleoli gan ein hasiantaeth gosod tai, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr, mae Tîm Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe wrth law i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y llety perffaith i chi.

Popeth mae angen i chi gwybod am llety