Croeso i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe

Mae’r Ysgol yn dwyn ynghyd ddisgyblaethau’r Gyfraith a Throseddeg mewn amgylchedd academaidd ffyniannus, gyda chefnogaeth staff sydd â phrofiad helaeth o fyd gwaith.

Yn Ysgol y Gyfraith rydym yn ymfalchïo yn ein henw da rhyngwladol ac yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, gan gyfuno addysg o ansawdd uchel gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd academaidd neu broffesiynol llwyddiannus.

Mae ein myfyrwyr wrth galon Ysgol y Gyfraith. Rydym yn darparu addysg unigryw a chyfoes, o lefel Israddedig i PhD, gan hybu rhagolygon ein myfyrwyr gyda chyfleoedd dysgu drwy brofiad a lleoliadau gwaith gydag ystod o bartneriaid allweddol.

Mae’r Ysgol yn canolbwyntio ar ymchwil, gyda nifer helaeth o ganolfannau arbenigol ar draws y Gyfraith a Throseddeg, yn amrywio o Hawliau Dynol Plant i Seiberderfysgaeth a ThechGyfreithiol.