Gyda dyfodol ein planed yn gynyddol ansicr a sôn cyson yn y newyddion am faterion megis microblastigion, llygredd aer ac ynni adnewyddadwy, mae ar nifer o’n myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt i hynny. Un ffordd o wneud hyn yw cyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Mae nifer o brosiectau y mae staff a myfyrwyr yn y Coleg Gwyddoniaeth yn eu gwneud yn cyfrannu’n helaeth at lwyddiant y nodau. I wybod mwy ynglŷn â sut yr ydym ni’n helpu, cliciwch ar y dolenni sydd o dan bob nod.
Gall saff a myfyrwyr hefyd helpu i gyflawni’r nodau hyn yn lleol drwy gymryd rhan mewn mentrau megis ymgyrchoedd glanhau traethau yn Abertawe, Awr y Ddaear, Y Wobr am Gynaliadwyedd, neu’r fenter Dyfodol Disglair.