Mae Prifysgol Abertawe’n barod i gefnogi Wythnos Chwaraeon Glân UKAD

Mae Prifysgol Abertawe’n barod i gefnogi Wythnos Chwaraeon Glân UKAD

Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth gadw chwaraeon yn deg ac yn lân.  Mae Prifysgol Abertawe'n falch o ailddatgan ein hymrwymiad i chwaraeon glân drwy gefnogi ymgyrch Wythnos Chwaraeon Glân Asiantaeth y Deyrnas Unedig i Atal Dopio mewn Chwaraeon (UKAD). 

Wythnos Chwaraeon Glân yw wythnos ymwybyddiaeth UKAD sy'n hybu chwaraeon glân, addysg a mentrau atal dopio mewn chwaraeon ar draws y Deyrnas Unedig. 

Cynhelir Wythnos Chwaraeon Glân eleni rhwng 22 a 26 Mai 2023. Y thema yw "Gwaith Tîm mewn Chwaraeon Glân".

Mae athletwyr yn ganolog i'r tîm ac maent yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cystadlu mewn ffordd lân - eu corff nhw ydyw felly eu cyfrifoldeb nhw ydyw! Mae pob un ohonom yn rhan o'r tîm ac rydym yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi athletwyr. Gyda'n gilydd, mae angen i ni barhau i'n haddysgu ein hunain, hysbysu athletwyr o'u cyfrifoldebau a chreu diwylliant cadarnhaol sy'n rhoi'r hyder i athletwyr ennill yn dda, heb ddopio.

I gefnogi UKAD, rydym yn hyrwyddo Wythnos Chwaraeon Glân. Rydym yn annog yr holl athletwyr, hyfforddwyr a staff sy’n cefnogi athletwyr i ddangos eu gwerthoedd chwaraewr tîm a chydweithio ag athletwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau atal dopio.

Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio gydag UKAD ar y Fframwaith Sicrwydd, y mae'n rhaid i Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol ei gyflawni i ddangos eu bod yn diwallu eu cyfrifoldebau atal dopio. Fel rhan o hyn, rydym wedi bod yn creu Strategaeth Addysg i gefnogi athletwyr yn gynnar yn eu gyrfa.

I ddechrau Wythnos Chwaraeon Glân, peidiwch â cholli gweminar Wythnos Chwaraeon Glân UKAD ddydd Llun 22 Mai, a ddarlledir yn fyw o Brifysgol Loughborough ac sydd ar agor i bawb. Bydd y weminar yn ystyried pynciau atal dopio o bwys ac yn cynnig cyngor ar gyfer pob rôl mewn chwaraeon glân ar fod yn chwaraewr tîm a chefnogi athletwyr.

Rydym hefyd yn annog unrhyw un o'n cymuned chwaraeon a hoffai ddysgu mwy am atal dopio i gofrestru ar gyfer Hyb Chwaraeon Glân UKAD lle ceir cyrsiau addysg am ddim i athletwyr, myfyrwyr, hyfforddwyr ac ymarferwyr.

Dilynwch @ukantidoping ar y cyfryngau cymdeithasol i weld ystod o gynnwys addysgol a chyffrous trwy gydol yr wythnos.

I ganfod mwy am fenter Wythnos Chwaraeon Glân UKAD, cliciwch yma.

Rhannu'r stori