n

"Bydd y balŵns werth hi, wir i chi!"

Nid dyma frawddeg y byddwn i wedi rhagweld fy hun yn ei dweud drosodd a throsodd eleni, gydag argyhoeddiad (braidd yn ddiamynedd) cynyddol. Wrth i fi ddal dau bwys balŵn i fyny ag arlliwiau amrywiol o arian, gan fagu plwc i ddatblygu dawn sylweddol am ddylunio mewnol yn sydyn iawn, sylweddolais ein bod ni wedi treulio bron i 5 mis yn ceisio trefnu digwyddiad yr oedd pobl yn talu amdano.

Dathlodd SUABC ddeng mlynedd o fod yn glwb sefydledig yn ddiweddar, ac i ddathlu'r achlysur, ymunodd Avoen Perryman, sefydlydd a chyn-arlywydd y clwb, ag aelod ers tro, cyd cyn-arlywydd ac arbenigwr cyffredinol am faterion paffio, Ryan Thornhill i gynllwynio'r syniad gwych i gynnal Cinio Elusennol Pen-blwydd SUABC yn 10 oed. Gan fod Ryan yn rhan ohono, ni ches i fawr o gyfle i wrthod yn gwrtais ac er nad oes llawer y gallwn ni ei wneud gyda'n gilydd heb ffraeo, mae'n troi mas bod digwyddiad elusennol mawr yn ffitio i'r categori hwn yn berffaith.

I'r rhai ohonoch chi nad ydych chi'n paffio gyda ni eleni a ddim yn gwybod pwy ydw i, dw i wedi crwydro'n dawel ar ffiniau'r clwb am bron i 3 blynedd fel bwgan Ryan, yn benderfynol o osgoi ymrwymo a chymryd cyfrifoldeb. Yn dilyn diffyg cyffro o ran ymadawiad Ryan (dros dro, mwy na thebyg) o bwyllgor y clwb ar gyfer y byd gwaith, ces i fy nhynnu i mewn gyda theitl swydd sy'n awgrymu nad ydw i'n gwneud llawer. 'Swyddog Ymgysylltu'r Clwb' ydw i, ac mae'n debyg y gellir cyfieithu hynny bron yn uniongyrchol i 'swyddog ymgys... mam... mam y clwb.' Erbyn hyn, mae hyn wedi esblygu a dw i wedi cymryd rôl cynrychiolydd elusennol yn y clwb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig, mae SUABC wedi setlo i gefnogi dwy elusen sy'n golygu llawer yn ein clwb yn rheolaidd. Mae Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig (CF) wedi bod yn achos hynod bwysig i Ryan a minnau. Mae cefnder Ryan, Aaron, yn dioddef o CF ac yn arwain yr ymgyrch 'Ymladd i Anadlu' wrth iddo ddod o hyd i'w ffordd yn nhir dieithr bod yn ymladdwr MMA proffesiynol sy'n dioddef o'r clefyd. Roedd cynyddu ymwybyddiaeth yn nod i'r ddau ohonom wrth i ni gychwyn ar ein teithiau codi arian personol a thrwy'r clwb. Enghraifft allweddol o'r diffyg ymwybyddiaeth oedd neges a ges i gan aelod o'r clwb wrth i ni ddechrau hysbysebu'r cinio.

Anfonodd Jez neges ataf ynghylch prynu tocyn, a daeth yn ôl ar ôl hynny gyda 'felly ydy'r arian yn mynd at yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig?' Efallai fy mod i braidd yn sinigaidd (neu'n sinigaidd iawn), ond neidiodd fy meddwl yn syth i ddisgwyl canlyniad negyddol iawn, a oedd dros ben llestri dweud y lleiaf, sef na fyddai Jez yn cytuno â'r syniad o roi'r arian i'r ymddiriedolaeth ac roedd ar fin dweud hynny wrtha i (a dim amharch tuag at Jez o gwbl - mae'n lyfli!!). Gan ddychmygu'r holl ymatebion posib, anfonais 'ydy. A'n helusen arall CLASP... pam??' braidd yn gwta! Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ddod yn ôl gyda 'mae hynny'n ffab. Mae CF gen i.' Doedd e ddim wedi croesi fy meddwl, ddim hyd yn oed o bell. Caiff ystadegau eu bwydo i ni am glefydau fel CF, a dw i'n cyfaddef yn agored dw i ddim bob amser yn eu cymryd nhw mewn. Dw i'n byw yn fy swigen llawer o'r amser, a dangosodd i fi tra oeddwn i'n cefnogi'r ymddiriedolaeth dros Aaron, fod miloedd o bobl yn ei chefnogi ar gyfer eu Aaron nhw, ac mae rhai ohonynt yn bobl fel Aaron eu hunain. Mae'r ymddiriedolaeth yn cynnig cefnogaeth mewn ffyrdd di-rif i bobl sy'n dioddef o CF ac i'r rhai hynny sy'n ceisio helpu rhywun maent yn ei garu drwy'r frwydr â CF. Does dim iachâd i CF, ond diolch i ymchwil a ariannwyd gan yr ymddiriedolaeth, mae hyd oes y rheini sy'n dioddef o'r clefyd yn parhau i fod yn hirach. Maent yn brwydro dros fywyd nad yw wedi'i gyfyngu gan CF ac yn cynnig help a chyngor diddiwedd i'r rheini sy'n dioddef ohono naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Ein hail elusen yw CLASP (Counselling, Life Advice and Suicide Prevention). Mae CLASP yn elusen iechyd meddwl fach ond sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n gwthio o blaid rhoi diwedd i'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac annog y rhain hynny sy'n ei chael hi'n anodd cerdded allan o'r tywyllwch. Dw i'n defnyddio'r gair 'Ni' yma'n betrus gan fod paffio yn gamp wrywaidd yn bennaf. Mae'n ffaith yn hytrach na datganiad cyffredinol ac, yn bersonol, nid yw'r pethau byddaf yn eu trafod wedi effeithio arna i a'r ffaith anwadadwy fy mod i'n fenyw. Yn lle hynny, dw i wedi siarad â phobl sydd wedi treulio bron i oes yn y gamp, ac ar ben hynny, dw i wedi rhoi'r hyn dw i'n ei ystyried i fod yn safbwynt fel arsyllydd, ac fel rhywun mae pobl yn dod ato.

Ym maes paffio, cawn ein bwrw, weithiau yn y wyneb, ar adegau yn y stumog ond yn bendant o ran iechyd meddwl. Er y bydd eich tîm yn eich cefnogi, yn hyfforddi gyda chi ac yn sefyll yn gefn i chi, nid yw'n camu i mewn i'r ring yna gyda chi. Mae paffio'n eich blino yn gorfforol, ond mae'n eich blino'n emosiynol hefyd. Mae'n cael ei fwrw i mewn i chi, yn llythrennol, ond rhaid i chi ymddangos i fod yn gryf, a heb eich anafu. Rhaid i chi gerdded i ffwrdd o ornestau a gollwyd heb dorri i lawr, a disgwylir i chi ddod yn ôl ar ôl pob ergyd a gweithio'n galetach.

Bydd y dynion hynny sy'n symud drwy'r camau ym maes paffio ac yn tyfu i fyny â'r gamp yn dweud wrthych chi faint o ddisgyblaeth a ddysgon nhw o ganlyniad, sut y gwnaethant ddysgu i reoli eu dicter, ond wnaeth e ddim eu dysgu ei bod yn iawn i siarad am sut roedd pethau'n effeithio ar eu lles meddyliol. Faint o gyfosodiadau ydych chi wedi eu gweld lle mae'n mynd o rywun yn sgipio'n ddramatig, i baffiwr sy'n llawn chwys yn wynebu bag dyrnu i.... ddyn yn eistedd ar ei ben ei hun, yn ei dŷ, yn llefain? Dydych chi ddim yn eu gweld nhw. Os ydych chi'n chwilio am 'baffiwr' ar Google, ar wahân i ambell lun o gi, mae'r canlyniadau a gewch o ddynion. Y neges i ddynion o'r dechrau un yw bod yn rhaid iddynt fod yn bengaled. Ond nid yw siarad am eich iechyd meddwl yn gwneud chi'n llai caled, mae'n hen bryd i bobl dderbyn hyn. Dw i wedi cael y pleser o weithio ochr yn ochr â phobl hynod gryf, dynion a menywod, ym myd paffio ac mae amharodrwydd cryf o hyd i beidio â siarad am y ffaith nad ydych chi'n hollol iawn.

I rai pobl, mae'r cyfnod yn y brifysgol yn un o'r cyfnodau o'u bywydau sy'n gallu achosi straen fawr, ac ychwanegwch at hynny'r pwysau o ystyried eich hunan yn 'feddal' am ofyn am help ac rydych chi'n rhan o gamp ag enw am fod yn llawn 'pobl galed'. Dyw hynny ddim yn iawn, ond mae pobl yn meddwl hyn ac rydym ni wir am newid hynny. Ymunais i â'r clwb hwn o'r tu allan, ar ôl gwylio o'r ffiniau am sbêl ac yn dod o gefndir chwaraeon cystadleuol gwahanol iawn. Heb os, dyma'r amgylchedd mwyaf croesawgar a chefnogol dw i erioed wedi bod ynddo, mewn chwaraeon a'r tu allan ohonynt. Rydym yn brwydro'n weithredol i chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig â'n chwaraeon, ac mae CLASP yn cynnig gwasanaeth gwych a defnyddiadwy iawn yn ogystal â dealltwriaeth ein bod ni, hyd yn oed fel clwb, yn ei chael hi'n anodd siarad am iechyd meddwl.

Wrth baratoi ar gyfer ein digwyddiad, siaradais â Phrif Swyddog Gweithredol CLASP, Kenny. Roedd mor agored â fi, ac felly roedd yn hapus i'n helpu i drefnu'r cinio ac roedd yn unigolyn hyfryd i siarad ag ef. Sefydlodd Kenny'r elusen wedi ceisio ei ladd ei hun ar sawl achlysur yn dilyn brwydr ffyrnig â'i iechyd meddwl. Wedi'i sbarduno gan ei  brofiadau anodd ei hun, mae Kenny wedi dechrau helpu'r rhai hynny sy'n ei chael hi'n anodd, gan gynnwys gofyn i fanciau i helpu'r rhai sydd mewn argyfwng ariannol yn gynt. Mae CLASP yn darparu sawl sianel cyngor a chymorth, ac mae'n hygyrch iawn drwy'r wefan a llinellau cymorth. Os yw unrhyw un yn ei chael hi'n anodd ymdopi, alla i ddim argymell y cymorth a ddarperir gan CLASP ddigon.

Gyda'n helusennau mewn cof, a phen-blwydd ar y gorwel, penderfynwyd mai cinio mawr a chrand oedd y ffordd o wneud hyn. Fodd bynnag, roeddwn ni am fod yn fwy uchelgeisiol gyda'n menter codi arian ac felly cawsom y syniad o gynnal gwerthiant a raffl. Haws dweud na gwneud. Mae fy ystafell sbâr wedi bod yn llawn pethau cofiadwy paffio â llofnodau am dipyn yn hwy na fyddwn i am ei gyfaddef wrth i'r digwyddiad hwn nesáu, ond daeth dim ohono'n enwedig o hwylus. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i lofnodi eitemau a chaniatáu i ni anfon menyg paffio at bobl ac, yn gyffredinol, fod yn boen dun! Dyma bobl a oedd yn bendant â phethau gwell i'w gwneud nag ateb fy negeseuon uniongyrchol ar Twitter. Hoffwn i hefyd ddiolch i Cai Bradley, cyn-aelod SUABC (ac yn aelod hynod ymroddedig o hyd) am ein cysylltu ni â'i 'gysylltiadau' i gael pob math o eitemau â llofnod na fydden ni byth wedi gallu eu cael oni bai amdano fe. Heb Cai a Ryan yn rhedeg o gwmpas fel ffyliaid am wythnosau, ni fyddai'r gwerthiant wedi cael ei gynnal, ac ni fyddai wedi codi dros £600 chwaith. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y raffl hefyd. Roedd llawer o enillwyr hapus iawn ac roeddwn i'n falch iawn o haelioni Abertawe.

Dychmygwch yr olygfa - mae'n 10 Tachwedd 2018 ac rydym yng Ngwesty'r Dragon, Abertawe (yn Ystafell Pembrey os ydym ni am fod yn benodol). Wedi newydd dreulio 2 awr mewn ystafell wisgo gyda chynorthwyydd hynod smart (na, nid Ryan), rydym ni hefyd wedi cael ein gwisg smart yn barod (gan gynnwys golchi gwallt) mewn 37 munud. Mae rhyw 70 o bobl lawr llawr yn edrych yn hynod smart (dim gwisgoedd hyfforddi yn unman) ac maent yn yfed Buck's Fizz ac yn cymysgu (!!!!), tra fy mod i'n eithaf coch gyda phrysurdeb ac yn edrych fel bod angen G&T cryf arna i (ond doedd dim prisoedd myfyrwyr, felly peint ges i). Ar y pwynt hwn, mae Ryan yn cuddio ei straen, er iddo drefnu bron popeth o'r gwesty ei hun i'r araith a ysgrifennodd yr wythnos diwethaf a gwrthod ei darllen i mi rhag ofn i mi gywiro ei ramadeg gogleddol.

Mae pobl yn eistedd i lawr ac felly dw i'n cymryd ei fod yn dechrau? Ac mae popeth yn digwydd heb yr un broblem. Ni allwn i wedi gallu gofyn am noswaith fwy perffaith. Mae wedi fy nysgu bod cynllunio hynod ofalus Ryan a'm taerineb i am arddangosiad canolog llawn balŵns wir yn talu ar eu canfed. Mwynhaodd pawb a dyna'r unig beth y gallwn i fod wedi gofyn amdano. Siaradodd Avoen am hanes ein clwb, gan ein hatgoffa i gyd ein bod ni'n cymryd yr hyn sydd gyda ni ar hyn o bryd yn ganiataol, ond bu llawer o chwys a dagrau yn rhan o greu'r clwb sydd gennym ni heddiw. Roedd cael cynifer o gyn-fyfyrwyr yn dod yn ôl ac yn dathlu gyda ni yn atgoffâd trawiadol o'r hyn mae'n clwb yn ei olygu i bobl a chymaint y mwynhaodd pobl eu hamser yma. Roeddwn i hefyd wrth fy modd o weld cynifer o wynebau newydd yno i ddangos i'r cyn-fyfyrwyr fod y clwb wrthi'n tyfu bob blwyddyn.

Codwyd dros £1,500 i'w rannu rhwng yr elusennau, sy'n fwy na roeddwn i erioed wedi gallu dychmygu. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a wnaeth ein digwyddiad yn gymaint o lwyddiant, o aelodau'r clwb a dalodd (arian go iawn!) i ddod, i'r rheini a deithiodd o ben arall y wlad i ddathlu gyda ni ac, wrth gwrs, i Ryan am ei ymdrechion diddiwedd a'i frwdfrydedd plentynnaidd drwy gydol yr holl broses. Dw i'n credu bod angen gorwedd i lawr mewn ystafell dywyll cyn i ni ystyried ein digwyddiad codi arian nesaf, ond ni fydd yr un olaf gennym ni, bendant!

Carys

n
n
n
n