Chwaraeon perfformiad uchel
Mae rhaglen chwaraeon perfformiad uchel y Brifysgol yn cynnwys grŵp dethol o chwaraeon. Mae gan bob un o'r rhain bennaeth ffrwd sy'n gweithio'n agos gyda'r hyfforddwyr i roi pob cyfle i'r athletwyr berfformio i’r safon uchaf. Mae ein chwaraeon perfformiad uchel yn elwa ar: wasanaethau gwyddor chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru.
Mae ein timau wedi cyflawni llwyddiant yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), ac mae athletwyr unigol wedi bod yn fuddugol mewn cystadlaethau ar lefel brifysgol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae llawer o'r clybiau hefyd yn cynnig cyfle i gystadlu yn system genedlaethol Cymru ar gyfer eu camp benodol.