Mae Les Mills yn arloeswyr ym maes ffitrwydd grŵp, ac mae eu dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwyr yn cynnwys GRIT STRENGTH, GRIT CARDIO a BODYPUMP yn rhan graidd o amserlen ffitrwydd y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.
Yn Chwaraeon Abertawe, ein haelodau yw ein prif ffocws, ac rydym yn chwilio am ffyrdd i wella eu teithiau ffitrwydd yn barhaus. Felly, y mis Medi hwn, rydym yn ehangu ein hamserlen ffitrwydd drwy lansio dosbarthiadau rhithwir Les Mills, sy'n cynnig unigryw yn Abertawe, gan gynyddu nifer y dosbarthiadau wythnosol ar ein Amserlen Dosbarthiadau Ffitrwydd Grwp 2019 i fwy na 100!
Mae dosbarthiadau rhithwir Les Mills yn fersiynau wedi'u recordio o flaen llaw, o ansawdd sinema a fydd yn cael eu harddangos yn y stiwdio rhithwir newydd sbon yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, gyda cherddoriaeth egnïol iawn a goleuadau sy'n creu naws.
Rydym yn cydnabod bod y ffordd rydym yn cadw'n heini'n esblygu: rydym ni am amrywiaeth ac rydym ni am wneud sesiynau pan fydd yn gyfleus i ni, felly mae'n hamserlen newydd yn cynnig cyfle i aelodau wneud hynny gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau, yn fyw ac yn rhithwir, i'w cynnal drwy gydol y dydd rhwng 6am-9pm.
Mae buddion lles gwneud ymarfer corff mewn grŵp yn enfawr, yn gorfforol ac yn feddyliol, felly mae hyn yn ychwanegiad cyffrous i bortffolio Chwaraeon Abertawe, gan gynnig dosbarthiadau perffaith i'r rhai sy'n dechrau arni wrth gadw'n heini yn ogystal â'r rhai hynny sydd am ddatblygu eu hamserlen hyfforddi - Peidiwch â gwrando arnom ni’n unig.