Mae gan y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, sydd wrth ymyl Campws Parc Singleton, amrywiaeth o gyfleusterau hyfforddi ar gyfer pob lefel, gan gynnwys caeau chwaraeon, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa, cyrtiau chwaraeon raced a phwll nofio 50m.
Beth bynnag fo'ch gallu, eich diddordebau neu'ch amcanion, gallwn gynnig y cymorth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch i gyflawni.
Cymerwch gipolwg ar ein cyfleusterau a'n hopsiynau aelodaeth neu cysylltwch â ni i drefnu taith drwy ffonio 01792 543555.