Wedi'u lleoli ar Gampws newydd y Bae, mae ein cyfleusterau yma yn gweddu i'r amgylchedd naturiol – gyda chaeau chwaraeon awyr agored ar hyd y traeth.
Mae cyfleusterau dan do ar gyfer codi pwysau, hyfforddiant cardio a dosbarthiadau, ac mae'r Neuadd Chwaraeon yn berffaith ar gyfer rhoi cynnig ar fadminton, saethyddiaeth neu bêl-fasged.
Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau amser cinio, ar ôl gwaith neu ar y penwythnos fel bod yr aelodau yn gallu gwneud y gorau o'n cyfleusterau ar adeg sy'n gyfleus iddynt.
Ystafell Codi Pwysau
Gyda'i hoffer codi pwysau newydd, mae'r ystafell codi pwysau ar Gampws y Bae yn cynnig popeth sydd ei angen ar gyfer sesiwn pwysau effeithiol.
Ystafell Cardio
Gallwch redeg, seiclo, rhwyfo neu groes-hyfforddi yn ein hystafell cardio.
Gyda matiau ymestyn ac ambell beiriant codi pwysau hefyd, gallwch gael sesiwn ymarfer corff lawn, o gynhesu cyn dechrau i ymlacio ar y diwedd.
Ardaloedd MUGA
Mae ein hardaloedd gemau amlddefnydd ("MUGA") yn ddelfrydol ar gyfer pêl-droed, rygbi a chwaraeon pêl eraill.
Mae cyfleoedd hefyd i chwarae pêl foli traeth, pêl-droed traeth a ffrisbi eithaf.
Gallwch ddefnyddio'r ardaloedd awyr agored hyn p'un a ydych yn fyfyriwr, yn aelod o staff neu'n aelod o'r gymuned leol.
Cysylltwch â ni i drefnu hyn.
Neuadd Chwaraeon
Mae'r neuadd chwaraeon yn lle delfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys pêl-fasged, badminton, pêl foli a saethyddiaeth.
I archebu'r neuadd chwaraeon, cysylltwch â ni.