Cyfleusterau Chwaraeon ar Gampysau Singleton a'r Bae
Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn ddelfrydol, p'un a ydych yn athletwr elît neu'n awyddus i gadw'n heini – neu fod yn heini.
Gyda dau leoliad yn y ddinas, nid ydych byth ymhell o un o gampfeydd neu feysydd chwarae Chwaraeon Abertawe.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi brofi'ch hun neu roi cynnig ar weithgareddau eraill fel tennis, athletau neu ddosbarth ffitrwydd.
Llogi ein Cyfleusterau
Gydag amrywiaeth helaeth o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff i'w llogi ar y ddau gampws, mae'n siŵr bod gennym yr hyn sydd ei angen arnoch. O logi cwrt neu gae chwarae i logi'r neuadd chwaraeon ar gyfer twrnamaint neu gaeau chwarae ar gyfer diwrnod chwaraeon yr ysgol, gallwn helpu i ddod o hyd i'r cyfleuster iawn i chi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm un o'r derbynfeydd:
Tîm Derbynfa'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol
01792 543555
Sports-village-admin@swansea.ac.uk
Campfa'r Bae
01792 543577
baysportscentre@swansea.ac.uk
Canolfan Athletau a Hoci
01792 602400
itcstaff@swansea.ac.uk