Mae Prifysgol Abertawe Yn Brifysgol Actif ag Angerdd Am Chwaraeon

Rydyn ni’n credu bod chwaraeon a ffyrdd o fyw actif yn ganolog i lwyddiant cyffredinol ein Prifysgol drwy gefnogi myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach i ffynnu yn eu bywydau academaidd, eu bywydau cymdeithasol, a’u bywydau proffesiynol. Mae lles wrth galon ein profiad Prifysgol Abertawe a’n hymrwymiad i weithio â’n partneriaid rhanbarthol i greu prifddinas chwaraeon a lles Cymru.

Mae Chwaraeon Abertawe: Fframwaith Strategol Prifysgol Actif (2020-2023) yn gosod ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer chwaraeon yn Abertawe. Trwy ein cynigion chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ein nod yw gweddnewid bywydau a’r dyfodol drwy gyfrannu at iechyd a lles ein cymuned gan gynnig profiad chwaraeon cynhwysol, hygyrch ac enghreifftiol sy’n arwain y sector i bawb.

Gallwch chi ddarllen Chwaraeon Abertawe: Fframwaith Strategol Prifysgol Actif (2020-2023) isod: