Coronafeirws: y diweddaraf

Tasg ddymunol ond anodd oherwydd cyfyngiadau amser a geiriau, yw rhoi disgrifiad o brofiadau a gafwyd dros sawl degawd. Mae angen cynfas ehangach i gyflwyno darlun mwy er mwyn rhoi cydnabyddiaeth bellach i eraill lle mae'n ddyledus. Yn ddiau, bydd cyfleoedd eraill i wneud hyn yn y dyfodol.


Roedd fy mhrofiad cyntaf o chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yn ôl yn 1962 pan chwaraeais rygbi i Brifysgol Bangor yn erbyn Abertawe yn Lôn Sgeti. Y canlyniad oedd gêm gyfartal o chwe phwynt yr un ond roedd yn ddigon i roi Bangor ar y ffordd i ennill pencampwriaeth Prifysgol Cymru (PC) am y tro cyntaf mewn tri deg chwech o flynyddoedd! Yn dilyn yr ornest cafwyd adloniant bywiog a chanu yn nhafarn y Rhyddings a dawns yn yr hen Neuadd Gelfyddydau (sydd bellach wedi’i dymchwel) ar y campws cyn y siwrnai fws hir yn ôl i Fangor.


Prin y sylweddolais bryd hynny, bron i ddegawd yn ddiweddarach ar ôl graddio, gan gynnwys blwyddyn ym Mhrifysgol Loughborough yn astudio addysg gorfforol a phum mlynedd yn dysgu mewn ysgolion, y byddwn yn ôl yn Lôn Sgeti, ar ôl cael fy mhenodi i staff y Brifysgol ym 1971.


Roeddwn yn gynorthwyydd i Vernon Jones, y Darlithydd â gofal dros Addysg Gorfforol a Hamdden, ac ar ei ymddeoliad ym 1980 ces i fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden Gorfforol. Yn y flwyddyn honno roedd modd gwneud defnydd llawn o neuadd chwaraeon newydd a’m rôl i oedd rheoli a datblygu'r cyfleusterau chwaraeon, trefnu rhaglen chwaraeon a hamdden ar gyfer cymuned y Brifysgol a darparu cyrsiau mewn addysg gorfforol i fyfyrwyr TAR yn yr Adran Addysg. Daeth Gwyneth Diment, John Palmer (ac yn ddiweddarach Kevin Harrison) yn gyfarwyddwyr cynorthwyol.
Roedd y Ganolfan Chwaraeon yn ganolbwynt i glybiau’r Undeb Athletau (UA) ar gyfer hyfforddiant a chwarae ac er fy mod yn cadw llygad barcud ar yr holl weithgareddau ac yn cynnig cefnogaeth i’r UA a’i lywyddion roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn rygbi a chynorthwyais y clwb gyda'u hyfforddi. Dros y blynyddoedd roedd gan y clwb rygbi rai chwaraewyr rhagorol ac aeth llawer ohonynt ymlaen i fod yn chwaraewyr rhyngwladol. O 1971 cyrhaeddodd y clwb naw rownd derfynol Undeb Athletau Prifysgolion (UAP) neu Gymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Prydain (BUSA) yn Twickenham gyda buddugoliaethau ‘cefn wrth gefn’ ym 1998 a 1999.


Mwynheais yr holl brofiadau a llwyddiannau mewn clybiau eraill a enillodd bencampwriaethau fel y timau criced, pêl-droed, sboncen, nofio, syrffio, tenis merched, pêl foli a thenis bwrdd - campau a gynhyrchodd chwaraewyr rhagorol hefyd. Yn wir roedd gorchestion dyfodol rhai myfyrwyr fel athletwyr (nifer ohonynt wedi derbyn ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol) hefyd yn destun balchder wrth iddynt ddatblygu fel chwaraewyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr a dyfarnwyr i fod yn rhan o dimau gêmau Olympaidd, Paralympaidd, a Phencampwriaethau’r Byd, Ewrop a gêmau’r Gymanwlad. Tair enghraifft o’r fath unigolion talentog yw'r athletwr trac Olympaidd dwbl Daniel Caines, y nofiwr medal aur Paralympaidd Liz Johnson a'r chwaraewr hoci rhyngwladol o Gymru Sarah Powell sydd bellach yn Brif Weithredwr Chwaraeon Cymru.


Rhoddodd dau beth arall foddhad arbennig i mi ar yr adeg pan oeddwn yn hyfforddwr Clwb Rygbi Abertawe o ganol y saithdegau i ddechrau'r wythdegau ac yn ddiweddarach yn y degawd hwnnw pan oeddwn yn hyfforddwr cynorthwyol Cymru. Camodd Mark Wyatt i fyny o XV 1af y Brifysgol i dîm Clwb Rygbi Abertawe a daeth yn sgoriwr pwyntiau uchaf erioed y clwb, gan fynd ymlaen i chwarae ddeg gwaith dros Gymru. Hefyd, yn ystod fy nghyfnod yn ymwneud â thîm Cymru, roedd tri o gyn-chwaraewyr y Brifysgol yn y tîm gan gynnwys y capten Paul Thorburn, arweinydd ymroddedig ac uchel ei barch ar ei wlad.


Cafwyd llawer o foddhad hefyd o ymdrechion a gyrfaoedd myfyrwyr addysg gorfforol TAR, y rhannodd rhai ohonynt fuddion eu hyfforddiant gydag ysgolion cynradd ac uwchradd gan annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i fyw bywydau iach. Daeth cyn-fyfyriwr, Derek Peaple, yn bennaeth yn Llundain a chyflawnodd gais llwyddiannus i sicrhau statws Coleg Chwaraeon Arbenigol ar gyfer ei ysgol. Honnodd fod ei “ymrwymiad angerddol ei hun i werth cyffredinol addysg chwaraeon wedi ei danio gyntaf yn ystod f’astudiaethau TAR yn y Brifysgol”.


Arweiniodd y diddordeb mewn darparu cyrsiau mewn hyfforddiant proffesiynol at gyflwyno'r cynllun gradd Gwyddor Chwaraeon ym 1997 a roddodd hygrededd academaidd ychwanegol i chwaraeon, gan ychwanegu at yr is-strwythur a phrofi i fod yn atyniad i ddarpar fyfyrwyr. Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff bellach wedi datblygu i fod yn faes astudio llewyrchus.


Cefais lawer o foddhad hefyd wrth annog y rhai nad oeddent wedi ymrwymo i glybiau UA ond a oedd am ymuno â dosbarthiadau hamdden neu gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol gan gynnwys staff a theuluoedd staff. Roedd gan staff eu clybiau a’u timau sboncen, tenis, criced, a phêl-droed pump bob ochr eu hunain a chymerodd llawer ran mewn ‘wythnos chwaraeon’ eu hunain. Yn bersonol, mwynheais gyfeillach y tîm criced a chymryd rhan yng ngŵyl griced ddeuddydd flynyddol staff PC. Hefyd, chwarae gêmau sboncen marathon yn gynnar ar nosweithiau Gwener gyda'r darlithydd Clasuron Dr. Eddie Owens cyn cilio i'r dafarn ac anghofio rownd pwy oedd hi wrth dorri ein syched yn rhy gyflym. Roedd teuluoedd staff yn mwynhau nofio a badminton ar fore Sadwrn ac es â’m merched Ruth a Siân tra bod Carole yn gwneud y siopa.


Daeth ymddeoliad yn 2003 ond bûm yn gweithio am dair blynedd arall yn rhan amser. Yn ystod yr un flwyddyn agorwyd y Pwll Cenedlaethol Cymru newydd, canlyniad tair blynedd o gynllunio ac adeiladu yn dilyn proses gynnig foddhaol a llwyddiannus iawn mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe. Roedd cynlluniau datblygu cyfleusterau pellach ar y gweill ac fe'u cyflwynwyd yn fuan wedi hynny gan arwain at greu Pentref Chwaraeon.
Nawr, wrth edrych i mewn o’r tu allan, gydag ehangiad y Brifysgol a ‘chyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf’ mae’n braf gweld y canmlwyddiant yn cyrraedd ar gyfnod o gynnydd. O'm rhan i, byddaf yn fythol ddiolchgar am y myfyrwyr a'r staff a helpodd i wneud fy nghyfnod yno’n brofiad cynhyrchiol a difyr.