Coronafeirws: y diweddaraf

Pwysigrwydd a gwerth Chwaraeon yn y Brifysgol

Pa bynnag gamp rydych chi'n cymryd rhan ynddi (Criced a Rygbi yn f’achos i), mae'n dod â myfyrwyr at ei gilydd - p'un ai ydyn nhw'n las-fyfyrwyr neu wedi eu sefydlu. Mae chwaraeon yn caniatáu i fyfyrwyr ddiffinio eu hunain a magu hyder mewn amgylchedd newydd. O ystyried ein cefndiroedd a'n profiadau amrywiol (gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol) a'r ffaith nad oeddem yn gwybod fawr ddim am ein gilydd na pha mor dda oedd pob un ohonom yn y gamp a ddewiswyd gennym, roedd yn ddysgu gwych ac yn lefelwr gwych.

I mi, roedd chwaraeon yn ddihangfa o'r holl astudio ac yn fodd i fynegi'ch hun a'ch sgiliau a'ch galluoedd mewn ffordd wahanol. Roedd chwaraeon hefyd yn fodd i werthfawrogi a pharchu'ch tîm - ffrindiau a chyd-fyfyrwyr. Fe wnaethon ni ddysgu gwersi ymarferol mewn bywyd y tu hwnt i'r darlithfeydd a'r tiwtorialau a fyddai'n ein helpu yn nes ymlaen wrth droedio i fyd gwaith. Er enghraifft, sgiliau rhyngbersonol, arweinyddiaeth, rheolaeth, dirprwyo, cyfeillgarwch, ymddiriedaeth, ysbryd tîm, etheg waith a bod yn gystadleuol.

Fel gydag unrhyw weithgaredd, academaidd neu gorfforol, mae cynllunio a pharatoi yn hanfodol. Roedd y sesiynau hyfforddi rygbi (cylchol) a arweiniwyd gan yr hyfforddwr ar y pryd, Stan Addicott (sydd bellach yn Gadeirydd Clwb Rygbi Abertawe) yn brawf go iawn. Ond trwy ymwneud â’r gamp, cwrddais â chwaraewyr Clwb Rygbi Abertawe - rhai o'r bobl fwyaf cyfeillgar fu erioed. Fodd bynnag, credaf i fi gael y cyfle i chwarae dros dîm rygbi’r Brifysgol drwy hap a damwain gan fod pob ochr yn rhai o’r rhai cryfaf a mwyaf grymus yr oeddwn wedi dod ar eu traws ar y pryd. Cefais wersi hedfan yn y sgrym a thorri fy asennau yn ystod y mis cyntaf yn y Brifysgol…..

Roedd chwarae dros y Brifysgol yn uchelgais. Roeddwn yn falch o gynrychioli'r brifysgol ar bob lefel ac yn enwedig yng nghystadlaethau'r UAU. Chwarae criced dros y Brifysgol oedd fy mhrif gamp - dyfarnwyd Cap Criced Prifysgol i mi ond nid oeddwn i’n gallu ei gasglu gan nad oeddwn yn medru mynychu'r digwyddiad.

Y cyfan y gallaf ei ddweud yw pan ddychwelais adref i chwarae i'm timau criced a rygbi lleol, roeddwn yn chwaraewr llawer gwell a mwy heini.

Wrth sôn am gyfeillach a chyfeillgarwch, yn fy ail flwyddyn, gyda’m ffrind da Simon George, fe drefnon ni gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr gyda myfyrwyr o Neuadd Mary Williams. Simon oedd capten (buddugol) Cymru a fi oedd capten (aflwyddiannus) Lloegr. Waeth bynnag y canlyniad (rwy’n fodlon cyfaddef mai’r ochr orau enillodd ar y diwrnod!) daeth â'r neuadd gyfan ynghyd ac roedd gennym gefnogwyr a fynychodd y gêm a dathliadau'r noson honno yn ein digwyddiad cymdeithasol wedyn...

Felly, i mi, chwaraeon oedd yr addysg bwysig iawn “arall” a gefais wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac un yr wyf yn ei thrysori hyd heddiw.