Prifysgol Abertawe yn cynnal Ffeinal Genedlaethol Spelling Bee 2018

Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Rownd Derfynol Genedlaethol Spelling Bee 2018 ar Gampws Parc Singleton, gan groesawu tua 80 o ddisgyblion yn deillio o 38 o ysgolion o bedwar ban Cymru.

Cynhelir y digwyddiad ar 4 Gorffennaf, wrth ddirwyn i ben y gystadleuaeth flynyddol sydd yn cefnogi myfyrwyr Blwyddyn 7 yn astudio Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg ail iaith mewn ysgolion ledled Cymru. Mae'r gystadleuaeth wedi ennyn diddordeb sylweddol, gyda 4,800 o ddisgyblion yn cofrestru ar gyfer y Spelling Bee yn ôl ym mis Medi 2017.

Spelling BeeMae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn brosiect allgymorth cydweithredol Cymru gyfan gyda'r bwriad o godi proffil Ieithoedd Modern ar lefel genedlaethol, gyda British Council Wales a'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru fel partneriaid. Darlithydd mewn Sbaeneg yw Dr Geraldine Lublin, ac mae hi'n cydweithio â Routes Cymru ar ran Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Prifysgol Abertawe.

Meddai Dr Lublin: "Mae rôl Prifysgol Abertawe o fewn Routes Cymru wedi bod yn gynyddol amlwg yn ddiweddar, gyda'r Cynllun Llysgenhadon Iaith Llwybrau at Ieithoedd, a ariennir gan y llywodraeth er mwyn anfon ein myfyrwyr iaith i ysgolion i hyrwyddo ieithoedd, a'r blogiau Lingo Map a ysgrifennir gan ein myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

"Mae Rownd Derfynol Genedlaethol y Spelling Bee yn llwyddiant arall, a byddwn yn croesawu cynrychiolwyr o'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen a'r Goethe-Institut, yn ogystal â swyddogion Routes Cymru.

"Rydym wrth ein boddau i groesawu'r disgyblion a'r athrawon hyn, sydd wedi bod yn gweithio mor galed ers yr hydref i gynrychioli eu hysgolion yn y Rownd Derfynol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn bydd yn sicr yn ddigwyddiad cyffrous a deniadol arall!"