Mae Dr. Bresalier yn adrodd stori hunllefus yr USS Leviathan

Mae'r Hanesydd Meddygaeth Prifysgol Abertawe, Dr Michael Bresalier, yn un o sawl arbenigwr ar raglen ddogfennol BBC2 sydd ar fin ymddangos, The Flu That Killed 50 Million (sy'n cael ei darlledu nos Fawrth 25 Medi, 9pm).

Gan nodi canmlwyddiant pandemig ffliw 1918, dyma raglen ddogfennol nerthol sy'n cyfuno ailymgorfforiad hanesyddol graffig â sylwebaeth arbenigol i ddod â lladdfa arswydus y ffliw yn fyw, i'r rheini a fu'n byw trwyddo i obaith y gwyddonwyr arloesol a fu'n chwilio'n ffyrnig am driniaeth ar ei gyfer. Mae'n werth ei gwylio nid yn unig oherwydd ei bod yn cynnwys arbenigwyr arweiniol ond oherwydd ei bod wedi'i thraethu gan Christopher Ecclestone.

Mae Dr. Bresalier yn adrodd stori hunllefus yr USS Leviathan, sef llong gludo Americanaidd a adawodd New Jersey gyda milwyr a oedd eisoes yn sâl gyda'r ffliw, gan frwydro i ymdopi â niferoedd a gynyddodd yn gyflym o ddynion yn dioddef o'r clefyd.Gan gyrraedd ym Mhrest gyda channoedd o ddynion sâl, credir erbyn hyn mai'r Leviathan oedd un o'r llongau a gludodd y ffliw i feysydd brwydro Ffrainc, o ble y lledaenodd i bedwar ban byd.