Archwilio sut mae ‘ysgolion pob oed’ yn gweithio yng Ngwlad yr Iâ

Yn ystod mis Tachwedd, aeth staff o Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe (SUSE) gydag athrawon o Gymru ar ymweliad astudio i Wlad yr Iâ.

Cafodd yr athrawon eu dethol o 'ysgolion pob oed' yng Nghymru. Mae ysgolion pob oed yn cyfuno camau addysg gynradd ac uwchradd yn yr un sefydliad, ac yn darparu lleoliad parhaus i ddisgyblion drwy'r camau addysg. Er bod ysgolion pob oed yn ddatblygiad diweddar a newydd yng Nghymru, mae ysgolion ar gyfer plant rhwng 6 ac 16 yn arferol yng Ngwlad yr Iâ. O ganlyniad, nod yr ymweliad oedd i athrawon archwilio'r ffordd y mae 'ysgolion pob oed' yn gweithredu yng Ngwlad yr Iâ o gymharu â'u trefniannau eu hunain.

Yn ystod y daith, bu'r athrawon yn ymweld ag ystod o ysgolion ac yn dysgu am system addysg Gwlad yr Iâ. Yn rhan o'r ymweliadau, aethpwyd ar deithiau o ysgolion a chafwyd trafodaethau addysgiadol â staff a myfyrwyr. Ochr yn ochr â hyn, gwnaeth staff o Brifysgol Abertawe gysylltiadau â Phrifysgol Gwlad yr Iâ, a'r gobaith yw cynnal rhagor o waith ymchwil rhyngwladol i ysgolion pob oed yn y dyfodol. Gwnaeth y daith hefyd alluogi athrawon o Gymru i rannu eu profiadau eu hunain o weithio mewn ysgolion pob oed ac i feithrin perthnasoedd rhannu gwybodaeth.

Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd staff o Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe yn mynd ar daith debyg i Sweden y flwyddyn nesaf. Rydym ni yn yr Ysgol Addysg yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion pob oed yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn gwneud gwaith ymchwil i effaith yr ysgolion hyn ar eu myfyrwyr ac athrawon ynghyd â'r systemau addysg y maen nhw'n rhan ohonynt.