Carly Payne (Daearyddiaeth)

  • Enw:                      Carly Payne
  • Oed:                      21
  • Cwrs:                    Daearyddiaeth
  • Cartref:                Caerfyrddin

Pam y dewisoch Brifysgol Abertawe?
Pan ddes i yma i ymweld ar Ddiwrnod Agored, cefais deimlad yn syth ar ôl i mi gamu ar y campws y byddwn yn dwlu arni yma. Yna es i ymweld â’m hadran gartref a chafodd fy nheimlad ei gadarnhau! Mae’n bosib fod y traeth a Gwyr yn ffactor yn y penderfyniad hefyd!

Beth ydych chi’n ei hoffi am eich cwrs?
Y modd y mae’r cwrs wedi’i strwythuro yw un o’r pethau gorau amdano. Yn y flwyddyn gyntaf mae rhan fwyaf y modiwlau’n orfodol ac yn seiliedig ar arholiadau ond yn yr ail a’r drydedd flwyddyn rydych yn gallu dewis y rhan fwyaf o’ch modiwlau eich hun, sy’n golygu bod modd i chi deilwra eich gradd i’ch siwtio chi. Yn yr ail flwyddyn mae cyfle i chi fynd dramor fel rhan o’r cwrs. Es i Vancouver a hwn oedd y profiad gorau a gefais erioed! Hefyd, mae eich traethawd hir yn gallu bod ar beth bynnag yr ydych am iddo fod (cyn belled ag y bod eich tiwtor yn meddwl ei fod yn realistig!).  Mae rhywfaint o waith grwp hefyd mewn rhai o’r modiwlau sy’n golygu eich bod yn gallu dod i nabod y bobl ar eich cwrs yn dda a gwneud ffrindiau gwych. Mae’r darlithwyr i gyd yn gynorthwyol tu hwnt, felly os oes unrhyw broblemau gennych maen nhw’n barod i eistedd i lawr a’u trafod gyda chi.

Beth yw’r peth gorau am fod yn fyfyriwr yn Abertawe?
Gan fod gan Brifysgol Abertawe gampws ar un safle, mae’n golygu eich bod yn cael teimlad o fod yn rhan o gymuned. Rydych yn dod i nabod pobl a gwneud ffrindiau’n gyflym iawn hefyd gan y byddwch wastad yn gweld yr un bobl o gwmpas y campws. Ond hefyd, rydych mewn safle yn y canol rhwng y ddinas a’r Mwmbwls sy’n golygu bod gennych y gorau o ddau fyd, bywyd y dref a bywyd y wlad sy’n rhoi digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn llawer o wahanol glybiau a gweithgareddau.

Pa gyngor y byddwch yn ei rhoi i ddarpar fyfyrwyr posibl?
Ewch i ymweld â chymaint o Brifysgolion ag y gallwch ar ddiwrnodau agored, byddwch yn treulio tair blynedd gyfan mewn un man felly mae’n rhaid i chi fod yn hyderus y byddwch yn hapus ble yr ydych. Gofynnwch lawer o gwestiynau, roeddwn i’n bryderus iawn ynghylch gadael gartref ond ar ôl i mi ofyn cwestiynau ynglyn â llety, y bywyd cymdeithasol, y campws ayyb, roeddwn i’n teimlo llawer yn fwy cyfforddus (a chofiwch, hyd yn oed os ydych yn meddwl ei fod yn gwestiwn hurt, mae rhywun siwr o fod wedi ei ofyn o’r blaen!)

Ar ôl i chi gyrraedd y Brifysgol, ymunwch â llawer o glybiau a chymdeithasau yn eich blwyddyn gyntaf, maen nhw’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd ac yn eich ail a’ch trydedd flwyddyn ni fydd gymaint o amser sbâr gennych i roi cynnig ar bethau newydd felly mae’n bwysig rhoi cynnig arni i gyd yn y flwyddyn gyntaf. Rydw i’n rhan o’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth, y Cynllun Cynrychiolwyr Myfyrwyr a Discovery (gwirfoddoli i fyfyrwyr).

Yn olaf, mwynhewch eich hun! Peidiwch â phoeni am bethau, mae pawb yn yr un sefyllfa ac os ydych yn cael eich hun mewn sefyllfa anodd ac yn mynd i banig mae rhywun ar y campws bob amser sydd wedi’i hyfforddi i’ch helpu.

Rydw i yn fy nhrydedd flwyddyn bellach a byddaf yn drist pan fydd rhaid i mi adael. Rydw i wedi cael amser anhygoel yma a byddwn yn argymell pawb i fynd i’r Brifysgol. Dydw i ddim am ddweud celwydd a dweud bod popeth yn hwyl a sbri drwy’r amser, roedd yna amser pan fyddai’r llwyth gwaith yn codi a byddwn yn ei chael hi’n anodd, ond gydag ychydig o ddisgyblaeth a gwaith caled mae modd rheoli popeth. Mae’r ffrindiau ar wyf wedi’u gwneud a’r profiadau yr wyf wedi’u cael yn bethau na fyddaf byth yn eu hanghofio, a phetai’r arian gennyf, byddwn yn fyfyriwr am byth!