Myfyriwr gwrywaidd yn eistedd wrth ei ddesg llety

Gwella'ch cyflogadwyedd ac arbed arian

  • Dewis byw mewn ystafell ddangos i gael profiad hanfodol trwy weithio ar ddigwyddiadau'r brifysgol
  • Derbyn ad-daliad o £75 o'ch ffioedd preswyl ar ddiwedd y flwyddyn
  • Neilltuir ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr sydd am fod yn rhan o'n diwrnodau agored
  • Cyfarch ymwelwyr a dangos eich llety iddynt
  • Mae'r ystafelloedd mewn fflatiau en suite dynodedig ym Mhreswylfeydd Campws Singleton, Campws y Bae a Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
  • Cael glanhau ychwanegol cyn dyddiadau dangos a drefnir ymlaen llaw

Eich rôl

  • Oddeutu 12 digwyddiad y flwyddyn rhwng mis Hydref a mis Ebrill
  • Croesawu ymwelwyr i'ch llety
  • Siarad am eich profiad
  • Rheoli ymweliadau i'r preswylfeydd a theithiau o gwmpas y campws ar ddyddiau'r digwyddiadau

Am ragor o fanylion am y rôl hon, anfonwch neges e-bost at Wasanaethau Preswyl yn accommodation@abertawe.ac.uk.

I gyflwyno cais, nodwch eich diddordeb yn adran Gwybodaeth Ychwanegol eich cais am lety. 

 

Fel diolch:

  1. Ar orffen eich ymweliadau a gynlluniwyd, cewch eich credydu £75.00. Caiff hyn ei ddisgowntio o ffioedd y tymor terfynol.
  2. Mi fydd eich fflat yn cael ei lanhau yn fwy ar gyfer y Diwrnodau Agored.
    1. Mi fyddwn hefyd yn hapus i ddarparu geirda ar eich cyfer.
  3. Os ydych yn gyson yn methu ymrwymo i'r cynllun yn llawn, yn anffodus, mae’n bosib y gwnawn ni ofyn i chi drosglwyddo llety.

Eich argaeledd:

  1. Mi fydd angen i chi fod ar gael ar gyfer diwrnodau ymweld fel yr amserlennir chi i wneud hyn *.
  2. Os nad ydych yn medru cymryd rhan mewn gweithgaredd, gallwch adael eich ystafell ar agor i ymwelwyr i’w weld yn eich absenoldeb a pharhau i gael eich credydu.
  3. Mae’n bwysig i ymateb i e-byst yn ymwneud a’ch argaeledd a chyfranogiad pan gewch eich promptio i wneud hyn ar gyfer digwyddiadau rydych wedi ymrwymo iddynt.
  4. Mi fyddwch yn derbyn rhestr o ddyddiadau ymweld, amseroedd ac amserlen **. Ni fyddwch yn cael eich gofyn i wneud pob dyddiad, ond mi fydd angen i chi wneud nodyn yn eich dyddiadur fel eich bod yn ymwybodol ohonynt i wybod pryd dylech fod ar gael. Rydym yn gwneud ein gorau i amrywio fflatiau’n gyson.

 

I ddarllen canllawiau rhein`y sydd yn berchen ar stafelloedd dangos cliciwch yma.

 

Cynlluniwch eich Siwrne Ar-lein