Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt SM

Prifysgol Abertawe'n anrhydeddu cyn-fyfyriwr nodedig

Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt SM

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i gyn-fyfyriwr nodedig, Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt SM.


Cyflwynwyd y dyfarniad i Mr Dutt heddiw (25 Gorffennaf 2018) yn seremoni raddio'r Ysgol Reolaeth.

Dechreuodd Mr Shekhar Dutt ei fywyd gwaith yn swyddog yn y fyddin ym 1967, ac yn ystod ei gyfnod ym Myddin India bu'n ymladd yn Rhyfel India-Pacistan 1971 yn y Sector Gorllewinol (Singh Rajathan), a dyfarnwyd Medal Sena iddo am ddewrder.

Graddiodd o Brifysgol Coleg Abertawe, Cymru ym 1984 gyda Diploma Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Datblygu o'r Ganolfan Astudiaethau Datblygu. Bu'r cymhwyster yn werthfawr iddo yn ystod camau nesaf ei yrfa: ym 1985 daeth yn Gomisiynydd Adran Raipur yn nhalaith Madhya Pradesh; ac ar yr un pryd, daeth yn Gadeirydd Awdurdod Datblygu Ardal Mahanadi. Caniataodd y ddaliadaeth iddo gynllunio a rhoi datblygiad cyffredinol ar waith yn y rhanbarth, sef Talaith Chattisgarh heddiw.

Fel Prif Ysgrifennydd Llesiant Llwythol, rôl y bu ynddi rhwng 1998 a 2001, chwaraeodd ran bwysig yng nghynllunio nifer o raglenni, gan gynnwys prosiectau arbennig yn ymwneud â datblygu ardal, casglu a marchnata cynnyrch coedwig bach, a datblygu pentref coedwig.

Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Ysgrifennydd yn Adrannau Addysg Ysgolion, Chwaraeon a Llesiant Ieuenctid rhwng 1997 a 1998, cyflwynodd raglen arloesol 'Education Guarantee Scheme', a welodd cynghorau pentref (panchayats) yn berchen ar ac yn rhedeg ysgolion. Datblygodd hefyd system i osod athrawon ysgol gynradd mewn ysgolion mewn ardaloedd anghysbell, a thrwy hynny lledaenu argaeledd addysg gynradd ledled Madhya Pradesh.

Daeth Shekhar Dutt yn Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth India yn 2005, swydd y bu ynddi tan fis Gorffennaf 2007. Yn ystod ei gyfnod, cyflwynodd nifer o fentrau moderneiddio, ac roedd yn gyfrifol am ddatblygu Polisi Caffael Amddiffyn newydd. Yn ystod y cyfnod hwn gwireddwyd fframwaith newydd ar gyfer perthynas amddiffyn rhwng yr Unol Daleithiau ac India, a sefydlwyd dulliau sefydliadol ar gyfer deialog rhwng y ddwy wlad, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cynyddu cydweithredu ganddynt ar faterion strategol ac amddiffyn.

Gwasanaethodd Shekhar Dutt ar Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol DeSales yn yr Unol Daleithiau o 2008 tan 2010. Fel Llywodraethwr Chattisgarh, mae wedi bod yn Ganghellor 11 o brifysgolion talaith, gan alinio'i ddiddordeb brwd ym maes addysg uwch â hyrwyddo meddwl deallusol a gwyddonol ymhlith cymunedau addysgu a phobl ifanc.

Mae Shekhar Dutt wedi cofnodi'i brofiadau mewn dau lyfr: Reflections on Contemporary India ac India’s Defence and National Security.

Enillodd Wobr Paul Appleby 2016 am ei wasanaethau neilltuol ym maes Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a heddiw mae'n aelod o nifer o fyrddau llywodraethu a chynghori, ac mae hefyd yn Is-lywydd Cyngor Gweithredol Sefydliad Gweinyddiaeth Gyhoeddus India.

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Shekhar Dutt: “Mae'n fraint enfawr bod Prifysgol Abertawe wedi dewis rhoi'r dyfarniad er anrhydedd hwn i mi.

Er mawr syndod, cefais fod gennyf y llyfrau a brynais yn Abertawe o hyd. Rwy'n cofio cyngor yr Athro Mike Shephardson i mi – darllena 'Development and Underdevelopment in Historical Perspective' gan Gavin Kitching, a ddysgodd ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.

Agorodd yr Athro Shephardson ac eraill yn Abertawe ddrws i mi lle gwelais achosion tlodi mewn gwledydd datblygol a damcaniaethau posib ar gyfer esblygu polisïau cenedlaethol i leddfu hyn. Mae'r hyn a ddysgais yn Abertawe wedi dylanwadu ar fy meddwl ac wedi fy helpu i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion.

Buaswn yn hapus iawn i roi fy amser ar gyfer unrhyw waith a fyddai'n helpu Prifysgol Abertawe i gyrraedd ei hamcanion.”