Prifysgol Abertawe’n anrhydeddu aelod cyngor hirsefydlog

Howard Morgan

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i un o’i haelodau mwyaf hirsefydlog, Mr Howard Morgan.

Derbyniodd Mr Morgan y radd heddiw (9 Ionawr 2018) yn ystod y seremoni ar gyfer Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. 

Ganwyd Howard Morgan yn y Crwys, Abertawe. Bu’n aelod annibynnol o Gyngor Gŵyr a Chyngor Dinas Abertawe o 1970 tan 2004, pan benderfynodd beidio â sefyll am ailetholiad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gadeirydd nifer o bwyllgorau gan gynnwys Pwyllgor y Celfyddydau a Hamdden o 1975 tan 1980 a gwasanaethodd fel Llywodraethwr i sawl ysgol yn ei etholaeth yng Ngogledd Gŵyr.

Fe’i penodwyd yn Ynad ym 1975 a daeth yn Gadeirydd y Fainc yn 2004 ar ôl bod yn gadeirydd Pwyllgor Prawf Gorllewin Morgannwg a Chymdeithas Ynadon Gorllewin Morgannwg, lle mae bellach yn Is-lywydd am Oes. 

Fe oedd Arglwydd Faer Abertawe ym 1988/89 ac fe’i gwnaethpwyd yn Henadur Anrhydeddus Dinas a Sir Abertawe yn 2005.

Mae ei gysylltiad â Phrifysgol Abertawe’n ymestyn yn ôl 42 mlynedd. Aeth i’w gyfarfod cyntaf o Lys Coleg Prifysgol Abertawe ym 1975 ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach fe’i hetholwyd yn aelod o’r Cyngor.  Mae wedi bod yn aelod o’r Llys ers y dyddiad hwnnw a bu’n aelod o’r Cyngor tan fis Rhagfyr 2015 pan gafodd ei benodi’n Llywodraethwr Anrhydeddus. Yn ystod ei amser yn y Brifysgol, mae wedi datblygu cysylltiad arbennig â gwaith Undeb y Myfyrwyr a chafodd ei ethol yn Ymddiriedolwr yn 2009, swydd sydd ganddo o hyd. Mae hefyd yn cadeirio Ymddiriedolwyr Cronfa Bensiwn Prifysgol Abertawe, y Panel Buddsoddi a’r Pwyllgor Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moeseg, yn ogystal â bod yn aelod o Bwyllgorau eraill. 

Roedd yn un o aelodau sefydlu ac yn Gadeirydd Gŵyl Gŵyr yn ogystal â bod yn Gadeirydd Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe o 1995 tan 2004 ac mae’n parhau i fod yn aelod o’i Bwrdd Gweithredol. 

Ar hyn o bryd fe yw Is-lywydd Côr Dyfnant yn ogystal â bod yn Llywydd am Oes Cymdeithas Amaethyddiaeth Gŵyr,  Is-lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Morgannwg ac Aelod Gweithredol o Gymdeithas Cominwyr Gŵyr. 

O 1994 tan 2004 bu’n aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru.

Am bron 30 mlynedd, fe oedd Comisiynydd Cyffredinol Cyllid y Wlad. Fe yw Llywydd NSPCC Abertawe a Gorllewin Morgannwg. 

Bu hefyd yn aelod o Gymdeithas Darlledu Annibynnol Cymru, Panel Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru a threuliodd gyfnod fel Llywodraethwr Opera Cenedlaethol Cymru.  

Mae Howard Morgan yn Gyfarwyddwr cwmni ffermio ac eiddo sydd bellach yn ei bumed genhedlaeth o berchenogaeth y teulu.    

Pan dderbyniodd ei radd, meddai Mr Morgan: “Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe ers dros 42 mlynedd. Ar 28 Tachwedd 1975 euthum i’m cyfarfod cyntaf o Lys Coleg Prifysgol Abertawe ac ychydig o flynyddoedd wedi hynny cefais fy ethol yn aelod o’r Cyngor. Rwyf wedi bod yn aelod o’r Llys ers y dyddiad hwnnw ac yn aelod o’r Cyngor tan fis Rhagfyr 2015 pan gefais fy mhenodi’n Llywodraethwr Anrhydeddus. Rwyf yn parhau i wasanaethu fel Cadeirydd ar nifer o bwyllgorau’r Brifysgol.

Yn ystod yr amser hwn rwyf wedi datblygu cysylltiad arbennig â gwaith Undeb y Myfyrwyr ac roedd yn bleser cael fy ethol yn Ymddiriedolwr yn 2009 ac rwyf yn parhau i gyflawni’r rôl honno o hyd. Mae’n gyffrous gweld y cyfleusterau i fyfyrwyr yn tyfu bob blwyddyn  ac yn braf gweld bod dros 120 o glybiau a chymdeithasau ar y campws bellach. 

Elfen fwyaf boddhaol yr ychydig flynyddoedd diwethaf fu bod yn rhan o’r grwpiau trafod a arweiniodd at ddatblygu Campws y Bae. Rwyf yn falch fy mod wedi cael cyfle i chwarae rôl fach yn y broses o weld Prifysgol Abertawe’n mynd i mewn i’r 21ain ganrif; gan ei gwneud yn Brifysgol y Flwyddyn Cymru yn 2017 a chan ei gweld yn cael ei hadnabod yn fyd-eang fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.

Mae Campws y Bae wedi ategu’r gwaith o uwchraddio ac ehangu safle Singleton ac mae’r datblygiadau hyn wedi gwneud Prifysgol Abertawe yn brifysgol o fri rhyngwladol.   

Ym 1975 ychydig a feddyliwn y byddai fy nghysylltiad â’r Brifysgol yn parhau i’r 21ain ganrif ond rwyf wrth fy modd ei fod wedi gwneud hynny. Rwyf wedi bod mor falch o fod yn rhan o’r broses hon o drawsnewid ac wedi mwynhau bron pob rhan o’r daith. Edrychaf ymlaen at ragor o flynyddoedd cyffrous o’n blaen.”