Mr Martin Coles DSc er anrhydedd, 28 Gorffennaf 2017

null

Martin Coles yw arlywydd a phrif swyddog gweithredol HaloSource, cwmni byd-eang sy'n datblygu technolegau glan i ddiheintio a phuro dŵr.

Mynychodd Martin Coles Brifysgol Abertawe a graddiodd â BSc (Anrh) mewn Biocemeg ym mis Mehefin 1977.

Gweithiodd i Procter a Gamble gan gynnwys fel gweithredwr yn Efrog Newydd a Cincinnati cyn ymuno â PepsiCo yn Chicago ym 1987. Gweithiodd i Nike, fel dirprwy arlywydd gweithredol Reebok International Ltd, ac fel arlywydd rhyngwladol Starbucks. Fe'i penodwyd yn arlywydd a phrif swyddog gweithredol HaloSource ym mis Hydref 2011.  Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel cynghorydd strategol i'r cwmni.

Wrth dderbyn ei radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe, dywedodd Mr Coles: "Rwyf wrth fy modd o gael fy nghydnabod fel hyn ac rwyf yn teimlo'n wirioneddol ostyngedig o ystyried yr anrhydedd aruthrol sy'n cael ei ddangos tuag ataf i, sy'n hollol annisgwyl ac yn fy mhlesio'n fawr iawn.

Mae ansawdd yr addysg a'r gofal a sylw dderbyniais i a'm cyfoedion ym Mhrifysgol Abertawe yn dyst i ansawdd y sefydliad hwn. Mae llawer iawn o eneidiau mawr wedi mynd trwy ddrysau Prifysgol Abertawe ac rwyf yn mawr werthfawrogi bod yn rhan fach o'i hanes cyfoethog."