Jeff Towns DLitt er anrhydedd, 25 Gorffennaf 2017

null

Mae Jeff Towns yn arbenigwr blaenllaw'r byd ar y bardd Dylan Thomas.

Gwerthwr llyfrau hynafol wrth ei waith, mae Jeff Towns yn byw yn Abertawe, tref enedigol Dylan Thomas, ac mae wedi treulio oddeutu 40 mlynedd yn chwilio am ac yn diogelu trysorau a adawyd gan y bardd, diddordeb sydd wedi arwain ato'n dod i feddiant cyfoeth o wybodaeth am Dylan Thomas, cysylltiadau helaeth, a llawer o lawysgrifau, nodiadau, llythyrau, lluniau a llyfrau.

Mae'r casgliadau Dylan Thomas y mae Jeff Towns yn berchen arnynt yn bresennol mewn amgueddfeydd a sefydliadau o gwmpas y byd, o Japan i Texas. Mae ei arddangosfeydd Dylan Thomas wedi hongian ym Marcelona ac yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol yn Llundain, ac maent yn osodyn parhaus yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Mae wedi gwerthu llyfrau a llawysgrifau prin Dylan Thomas i ffigyrau byd enwog gan gynnwys Mick Jagger, Bill Clinton, Jimmy Carter, y Tywysog Charles ac Allen Ginsberg.

Mae Jeff Towns hefyd yn awdur cyhoeddedig, yn areithiwr, yn wneuthurwr rhaglenni dogfen, yn sylwebydd rheolaidd yn y cyfryngau, ac yn fwy diweddar yn ymgynghorydd artistig sy'n arbenigo ar Dylan Thomas.

Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, dywedodd Mr Towns: "Pan agorais i a'm gwraig Elizabeth ein siop ym 1970, fy nghwsmer cyntaf o ddifrif oedd yr Athro Cecil Price, Pennaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe bryd hynny. Fe ddaeth yn noddwr ac yn gyfaill da. Yn ystod y blynyddoedd, daeth hwn yn batrwm gyda llawer o staff eraill y brifysgol. Es i ati hefyd i gyflogi llawer o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Abertawe, a wnaeth oll fy ngwasanaethu i – a'm cwsmeriaid – yn dda.

Pan ysgwyddodd y brifysgol y cyfrifoldeb am Wobr Dylan Thomas, dechreuais ymgysylltu â'r Athro John Spurr a'r Dr Elaine Canning yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Arweiniodd y cysylltiad hwn at yr adeg fwyaf cyffrous yn fy mywyd fel gwerthwr llyfrau pan, yn 2014, glywais forthwyl yr arwerthwr yn disgyn yn Sotheby's, ac roedd fy nghynnig comisiwn llwyddiannus yn golygu bod llawysgrif o gerddi Dylan Thomas a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dod yn ôl i Brifysgol Abertawe – wedi'i harbed ar gyfer Abertawe a Chymru! Ac yn awr yr anrhydedd mawr hwn, sy'n peri i mi deimlo'n hynod o falch, ac edrychaf ymlaen at hyd yn oed yn fwy o ryngweithio a chydweithio cyfoethog a chyffrous â'r sefydliad mawr hwn."