Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Turki Bin Naser Bin Mohamad Bin Naser Abdulaziz Al-Saud

Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Turki Bin Naser Bin Mohamad Bin Naser Abdulaziz

null

Mae'r Tywysog Turki yn ffigwr pwysig yn strategaeth economaidd 2030 Teyrnas Sawdi Arabia.

Fe'i ganwyd ac fe'i magwyd yn Riyadh a graddiodd yn y Wasg a'r Cyfryngau o Brifysgol Brenin Sawd, Teyrnas Sawdi Arabia, gan fynd yn ei flaen i ennill gradd feistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes o Brifysgol Santa Clara yng Nghaliffornia.  Dechreuodd ei yrfa fel Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol yn y Weinyddiaeth Ddiwydiant a Thrydan. Ers 2002, mae wedi gweithio fel Pennaeth Materion Rhyngwladol y Weinyddiaeth Ddiwydiant a Thrydan. Mae'n ffigwr pwysig yn y gwaith o ddatblygu strategaeth 2030 Teyrnas Sawdi Arabia ac yn cynrychioli Sawdi Arabia mewn cyfarfodydd blynyddol rhyngwladol gan gynnwys cyfarfodydd Sefydliad Datblygiad Diwydiannol y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Masnach y Byd, a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Mae'r tywysog yn gysylltiedig â'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe trwy fyfyrwyr doethuriaeth yr Athro Nick Rich a thrwy waith a gynhaliwyd ynghynt gan yr Athro Rich gyda theulu brenhinol Al-Nayahan yr Emiriaethau. Mae'r tywysog wedi gwahodd y brifysgol i helpu i weithredu'r weledigaeth 2030 ar gyfer Teyrnas Sawdi Arabia ac mae'n ystyried y brifysgol yn gynghreiriad gwerthfawr o ran cyflawni'r weledigaeth hon a helpu dinasyddion Sawdïaidd i ymgysylltu â chyflogaeth statws uchel ac ystyrlon.

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Turki: "Rwyf yn falch iawn o dderbyn y dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe. Anrhydedd a braint yn wir yw gweithio gyda sefydliad sydd wirioneddol o'r radd flaenaf sy'n gwasanaethu arweinwyr cenhedloedd y dyfodol a chymunedau â'r fath angerdd. 

Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Gyngor y Brifysgol, yr Ysgol Reolaeth, a'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr am fy enwebu ac rwyf yn cyflwyno fy nyfarniad i bobl Teyrnas Sawdi Arabia a chenhedloedd eraill."