Abertawe'n anrhydeddu 'hyrwyddwr gwyddoniaeth, menywod a'r iaith Gymraeg

‌Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i Elin Rhys, cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, a sefydlodd Telesgop, y cwmni cynhyrchu amlgyfrwng blaenllaw a leolir yn Abertawe.

Cyflwynwyd y dyfarniad i Ms Rhys heddiw (dydd Gwener, 22 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio’r Coleg Reolaeth. 

Elin Rhys Magwyd Elin Rhys yn Solfach, Caernarfon a Llanelli. Ar ôl graddio â gradd Biocemeg o Brifysgol Cymru Abertawe (fel yr oedd ar y pryd) ym 1978, bu'n gweithio fel gwyddonydd gydag Awdurdod Dŵr Cymru cyn iddi ddechrau gyrfa fel cyflwynydd teledu gyda HTV ac S4C ym 1984.

Ym 1993, sefydlodd ei chwmni teledu ei hun er mwyn poblogeiddio gwyddoniaeth yn y cyfryngau a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Heddiw, mae Telesgop yn gwmni amlgyfrwng â'i bencadlys yn ninas Abertawe.

Mae cynyrchiadau Telesgop - boed ar gyfer y teledu, y radio neu'r rhyngrwyd, yn Saesneg ac yn Gymraeg - wedi ennill bri ledled y byd. Mae rhaglenni ffeithiol, megis y gyfres deledu Gymraeg, Ffermio, yn denu ffigurau gwylio uchaf S4C yn rheolaidd. Mae'r gyfres Dibendraw, sy'n rhoi sylw i wyddonwyr blaenllaw'r gorffennol a heddiw, wedi darparu llwyfan i rai o sêr ymchwil gwyddonol Prifysgol Abertawe rannu eu canfyddiadau â'r cyhoedd.

Yn ogystal â rhaglenni gwyddonol, mae Elin Rhys wedi cynhyrchu rhaglenni dogfen sy'n archwilio straeon rhai o ffigurau mwyaf blaenllaw Cymru a'r byd. Ymhlith y rhain y mae rhaglenni megis Edward VIII's Murderous Mistress (Channel 4); The Davies Sisters: Bringing Art to Wales (BBC Wales); Heath v Wilson: the Ten Year Duel (BBC Four); Wallis Simpson: The Secret Letters (Channel 4); Darwin, Y Cymro a’r Cynllwyn (S4C); Syr Rhys ap Thomas – Cymro a laddodd Richard III (S4C); Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (S4C) a rhaglenni dogfen am y cerddorion, John Denver a Meat Loaf (BBC Four).

Cynyrchiadau diweddaraf y cwmni ar gyfer S4C yw Pobl Port Talbot, sy'n portreadu cymuned y dref a'i diwydiant dur enwog, a Her yr Hinsawdd, sy'n ystyried newidiadau yn hinsawdd y byd ac, yn benodol, eu heffaith ar Yr Ynys Las a’r Maldives.

Mae Elin Rhys wedi adeiladu presenoldeb cyhoeddus aruthrol a rhoddir clust a gwerthfawrogiad i’w sylwadau a’i chyngor ar faterion fel arweinyddiaeth, cydraddoldeb yn y gweithle a'r iaith Gymraeg. Nid oes syndod felly i Lywodraeth Cymru alw arni i gadeirio Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar 'Yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd' a gyhoeddodd ei argymhellion yn 2014. Mae'r Brifysgol hefyd wedi elwa o'i pharodrwydd i rannu ei phrofiad a'i chyngor gwerthfawr, yn benodol drwy ei gwaith gyda Bwrdd Strategol Academi Cyflogadwyedd y Brifysgol ac fel aelod gweithgar o Gyngor y Brifysgol.

Cyflwynwyd y Dyfarniad er Anrhydedd i Ms Rhys gan Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe. 

Meddai Dr Ffrancon: "Mae Elin Rhys yn ymgorfforiad perffaith o’r graddedigion y mae Prifysgol Abertawe am eu datblygu a’u dathlu: yn arloeswr yn ei maes; yn bencampwr dros wyddoniaeth, menywod a’r Gymraeg; yn ysbrydoliaeth i gydweithwyr; yn entrepreneur sydd â llygad ar y cyfle nesaf ac yn un sy’n barod i fentro. Mae’n esiampl perffaith i’n graddedigion heddiw o’r llwyddiant all ddod i ran unigolyn sydd wedi mentro trwy ddrysau Prifysgol Abertawe." 

Wrth dderbyn ei gradd, dywedodd Ms Rhys: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn y ddoethuriaeth hon gan Brifysgol Abertawe. Teimlaf y dylwn rannu'r anrhydedd â'm staff ffyddlon yn Telesgop, â chydweithwyr sydd wedi fy helpu dros 33 o flynyddoedd yn y diwydiant darlledu, ac â'm gŵr, fy merch a'm rhieni.  Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda llawer o academyddion Prifysgol Abertawe, eu ffilmio a chyfrif rhai ohonynt ymhlith fy ffrindiau.

"Roeddwn i'n dwlu ar bob munud o'm hamser yma fel myfyriwr israddedig ar ddiwedd y saithdegau, ond doeddwn i byth wedi breuddwydio y byddai'r Brifysgol yn ystyried bod fy ngyrfa yn haeddu gradd er anrhydedd. Rwyf wedi fy syfrdanu wrth weld y Brifysgol yn tyfu ac yn mynd o nerth i nerth ac wedi ymfalchïo ynddi hefyd.  Mae cael fy anrhydeddu fel hyn, gan sefydliad rhagorol ar garreg fy nrws yn bleser o'r mwyaf a dwi wrth fy modd! Diolchaf yn ddiffuant i Brifysgol Abertawe am yr anrhydedd ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at ei dyfodol llewyrchus."