Yr Athro Eiddwen Harrhy FRSA FRCM FRWCMD

Eiddwen Harrhy‌Mae'r Athro Harrhy'n soprano Gymreig o fri rhyngwladol sy'n byw yn Abertawe ac sydd wedi perfformio ar lwyfannau Tai Opera enwocaf y byd. Ers perfformio gyntaf oll yn Covent Garden ym 1974 yng Nghyfres y Fodrwy o dan Syr Colin Davis, a gyfarwyddwyd gan Götz Friedrich, mae wedi ymddangos mewn roliau megis Pamina yn Y Ffliwt Hudol a Madama Butterfly.  Yn ogystal â'i gwaith yn athro llais yn y Coleg Cerdd Brenhinol, mae'n rhoi dosbarthiadau meistr a hyfforddiant un-i-un ym Merlin, Prâg, Singapore, Helsinki, Stockholm, Fiena, Bloomington a Dulyn.

Cyflwynwyd y radd gan Elin Manahan Thomas, sy'n gyn-fyfyrwraig yr Athro Harrhy ac yn soprano o fri rhyngwladol ei hunan.  Derbyniodd hithau Radd Er Anrhydedd oddi wrth Brifysgol Abertawe yn 2013. Meddai: "Anrhydedd yw cyflwyno Eiddwen Harry i'r Brifysgol i dderbyn ei Doethuriaeth Er Anrhydedd, gwobr sy'n cydnabod ei chyfraniad nodedig i ganu, nid yn unig yng Nghymru, gwlad ei mebyd, ond ar draws y byd."

Wrth dderbyn ei gradd, dywedodd yr Athro Harrhy: "Darostyngol iawn yw derbyn cydnabyddiaeth y Brifysgol am fy ngwaith yn y byd cerddoriaeth, yng Nghymru a ledled y byd. Feddyliais erioed y byddwn yn cael gyrfa o'r fath a gefais, nac ychwaith y byddwn i'n derbyn Doethuriaeth Er Anrhydedd oddi wrth brifysgol fy nhref frodorol. Mae'n arbennig iawn."