Mel Nurse

Mel Nurse ‌Yn adnabyddus ar draws y ddinas fel 'Mr Swansea', mae Mel Nurse yn gawr ei gyfnod yn ninas ei febyd, ac yn arbennig felly ym myd y bêl gron.  Ymunodd Mel â Dinas Abertawe, clwb ei dref enedigol, ym 1955 o Ysgol Uwchradd Trefansel.  Chwaraeodd ddwsinau o droeon i Gymru'n olwr canol, a'r unig beth a'i rhwystrodd rhag ennill rhagor o gapiau oedd safon chwarae ei hen gymydog John Charles, a chwaraewyr megis Mike England. Daeth Mel Nurse yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn gynnar yn y 1980au, ac ar dri achlysur (1985, 1997, a 2002) bu ganddo law yn y gwaith o achub y clwb rhag mynd yn fethdalwr. 

Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd Mr Raymond Ciborowski, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Brifysgol: "Mae llawer o bobl wedi chwarae rhan yng nghynnydd syfrdanol Dinas Abertawe, ond does neb wedi chwarae rhan mwy, neu ran bwysicach, na Mel Nurse. 

"Yn syml iawn, hebddo fe, ni fyddai Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn bodoli, ac mae hyn yn golygu bod yr effaith y mae wedi'i chael ar y rhanbarth hon yn amhosibl i'w mesur, yn nhermau economaidd, diwylliannol a chwaraeon."

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Nurse: "I mi, mae'n wefreiddiol bod Prifysgol Abertawe wedi tybio ei bod yn addas cyflwyno'r Radd Er Anrhydedd i mi. Fel rhywun sydd wastad wedi byw yn Abertawe, ac sydd â chariad diddiwedd at y ddinas, a diddordeb brwd yn y ffordd y mae wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae cael fy nghydnabod gan y Brifysgol, sefydliad sydd mor ganolog wrth wneud Abertawe'n ddinas fywiog a blaengar i fyw ac i weithio, yn arbennig dros ben."