Ms Cerys Matthews MBE

Cerys_MatthewsGanwyd Cerys Matthews yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd yn Abertawe. Enillodd sylw'r cyhoedd gyntaf fel prif gantores y band roc sydd wedi gwerthu miliynau o gryno ddisgiau, Catatonia, a ffurfiwyd ym 1992, ond gadawodd y band yn 2000 i fynd i'r Unol Daleithiau i archwilio'i hoff ffurfiau, sef jazz cynnar a melangan werin. Mae wedi cydweithio'n helaeth drwy gydol ei gyrfa gydag artistiaid megis Tom Jones, The Pet Shop Boys, Larry Adler, John Cale, Space a The Manic Street Preachers, a chanodd i Bill Clinton yng Ngwˆ yl y Gelli Gandryll yn 2001.  Mae hefyd yn awdur medrus, yn enwedig barddoniaeth a llenyddiaeth i blant. Er mis Tachwedd 2008 mae wedi bod yn cyflwyno rhaglen ei hun ar BBC Radio 6 Music.  Enillodd MBE eleni