Dr Renu Khator

Dr Renu KhatorDr Renu Khator yw wythfed canghellor System Prifysgol Houston, a thrydydd llywydd ar ddeg Prifysgol Houston. Hi yw'r Indiad America gyntaf i arwain prifysgol ymchwil fawr yn yr Unol Daleithiau, a hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn ganghellor system addysg uwch yn Nhecsas. Yn ystod ei chyfnod fel canghellor mae System Prifysgol Houston wedi tyfu'n sylweddol; mae wedi ennill mwy o ariannu ar gyfer ymchwil nag erioed o'r blaen, mae'r nifer o fyfyrwyr sy'n cofrestru ar ei uchaf, mae rhoddion preifat ar eu huchaf ac mae wedi ennill statws Haen Un. Arwyddodd Prifysgol Houston gytundeb partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar.