Heini Gruffudd

Mae’r awdur, ymgyrchydd ac ymgynghorydd iaith amlwg Heini Gruffudd yn un o ffigyrau amlycaf  Abertawe.

Cafodd ei fagu yn y ddinas, yn fab i’r llenorion a’r Eifftolegyddion  Kate Bosse Griffiths, Curadur cyntaf casgliad Canolfan Eifftaidd y Brifysgol  a J Gwyn Griffiths,  a oedd yn athro yn y Clasuron ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd.  

Fel athro ac awdur mae wedi treulio oes yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion a rhwng 1990 a 2003 bu’n ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion y Brifysgol ac ar ôl ymddeol yn gynnar o’r adran honno , mae’n parhau i weithio fel cyfieithydd ac ymgynghorydd iaith .

Heini yw un o brif  ddarparwyr deunydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae ei gyfres helaeth o gyhoeddiadau poblogaidd – yn eu plith Welsh is Fun, the Welsh Learner’s Dictionary a Street Welsh  - wedi eu seilio ar ei ymchwil academiadd cadarn i egwyddorion sylfaenol caffael iaith. Mae’r astudiaethau

Welsh Rules, Dechrau Cyfieithu, Cymraeg Da a Golwg ar Drawsieithu  wedi sefydlu Heini fel awdurdod rhyngwladol yn ei faes, arbenigedd sydd wedi ei gydnabod gan Fwrdd yr Iaith a Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi ei wahodd ar sawl achlysur i baratoi adroddiadau ar eu cyfer, gan gynnwys, yn ddiweddar, ymchwiliad a gynhaliwyd gan Academi Hywel Teifi i Ganolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg.   

Yn ogystal â bod yn awdurdod, y mae hefyd yn ymarferwr. Yn sgil ei brofiad helaeth o ddysgu Cymraeg i oedolion,  y mae wedi cael ei wahodd i arwain gweithdai ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.

Wedi gosod y sylfeini i ddysgwyr ac athrawon ar gyfer adfer y Gymraeg, mae hefyd wedi brwydro’n uniongyrchol ac yn ddiflino fel ymgyrchydd i sicrhau’r hawl i addysg Gymraeg. Bu’n gadeirydd cenedlaethol RHAG ( rhieni dros addysg Gymraeg) ac fe fu’n ganolog yn y gwaith o sicrhau ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn ardal Abertawe.  Roedd hefyd yn un o sefydlwyr Tŷ Tawe, Canolfan Gymraeg Abertawe, yn 1987.

Mae Heini hefyd yn llenor o fri.  Ei gyfrol ddiweddaraf yw Yr Erlid (Y Lolfa, 2012), sy’n adrodd hanes teulu ei fam, Kate Bosse-Griffiths, yng nghyfnod erlid y Natsïaid ar ei theulu yn yr Almaen. Enillodd rhaglen ddogfen a oedd yn adrodd yr hanes, ‘Y Trên i Ravensbruck’ ddwy wobr Bafta. 

Mae Heini Gruffudd yn un o benseiri y Gymru ddwyieithog, Cymru y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i’w datblygu. Drwy gyfrwng ei waith arloesol y mae wedi dod â chlod a bri i’r Brifysgol ac mae ei ymroddiad i wasanaethau’r gymuned ehangach yn batrwm o’r pontio angenrheidiol rhwng ysgolheictod a chymdeithas.