Dyfarniadau Anrhydeddus

Dyfarniad Anrhydeddus Prifysgol Abertawe

Dyfarniad Anrhydeddus yw un o gyrhaeddiadau mwyaf arwyddocaol addysg uwch. Bob blwyddyn mae Prifysgol Abertawe yn rhoi Dyfarniadau er Anrhydedd i unigolion i gydnabod cyflawniad rhagorol i’r Brifysgol neu’r rhanbarth. Daw derbynwyr dyfarniadau graddio gaeaf 2018 o feysydd yn cynnwys gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, chwaraeon ac addysg.

Yr Athro Bernard Knight CBE

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i awdur a phatholegydd blaenllaw o Gymru, yr Athro Bernard Knight CBE.

Darllenwch fwy... 

Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt SM

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd er anrhydedd i gyn-fyfyriwr nodedig, Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt SM.

Darllenwch fwy... 

Gaynor Richards MBE

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i Mrs Gaynor Richards MBE, Cyfarwyddwr ers amser maith Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot.

Darllenwch fwy... 

La-Chun Lindsay

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i Ms La-Chun Lindsay, rheolwr gyfarwyddwr benywaidd cyntaf y cwmni diwydiannol mwyaf yng Nghymru, GE Aviation Wales.

Darllenwch fwy...

Yr Athro Ben Shneiderman

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd er anrhydedd i'r Athro Ben Shneiderman, gwyddonydd arloesol ym maes rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, y mae ei waith wedi bod yn hollbwysig wrth bennu'r ffyrdd hanfodol yr ydym yn cyfathrebu â chyfrifiaduron, er enghraifft, drwy ddefnyddio llygoden i bwyntio a chlicio.

Darellenwch fwy...