Mae’r Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg wedi’i gadeirio gan aelod lleyg o’r Cyngor ac mae’n cynnwys aelodau lleyg o’r Cyngor ac aelodau lleyg cyfetholedig. Mae’r holl aelodau yn annibynnol ar dîm rheoli’r Brifysgol er bod uwch-weithredwyr yn mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen. Mae gan y pwyllgor rôl allweddol o ran fframwaith llywodraethu’r Brifysgol gan sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Rheoleiddio Statudol, Rheoleiddio’r Brifysgol a Rheoleiddio Allanol wrth gyflawni ei gweithgareddau ariannol ac anariannol. O ran y materion sy’n rhan o’i gylch gorchwyl, mae’r pwyllgor yn meddu ar yr awdurdod i wneud argymhellion i’r Brifysgol, ei hunedau sefydliadol, a’i haelodau.

Yn ystod sesiwn academaidd 2019-20, cynhaliodd y pwyllgor dair sesiwn gan gynnwys un lle roedd archwilwyr allanol yn bresennol er mwyn trafod canfyddiadau’r archwiliad ac i adolygu datganiadau ariannol a pholisïau’r Brifysgol yn ogystal â’r cynllun archwilio blynyddol. Hefyd cynhaliwyd cyfarfod â’r Pennaeth Archwiliadau Mewnol er mwyn rhoi ystyriaeth i adroddiadau archwiliadau mewnol ac i adolygu systemau rheoli mewnol ac i fynd i’r afael ag argymhellion ar gyfer gwella systemau o’r fath. 

Y Cyfansoddiad Aelodaeth
Aelod Lleyg o’r Cyngor (Cadeirydd)  Mrs Marcia Sinfield
Aelod lleyg o'r Cyngor Professor Kathryn Monk
Aelod lleyg o'r Cyngor Mr Phillip Morgan
Aelod lleyg o'r Cyngor Swydd wag
Aelod Lleyg Cyfetholedig Mrs Alison Vickers
Aelod Lleyg Cyfetholedig Swydd wag
Aelod o Staff y Cyngor Swydd wag
Aelod o'r Cyngor Myfyrwyr Abigail Egwuatu
Papurau Dyddiad Dosbarthu i AelodauDyddiad y CyfarfodAmser y Cyfarfod
22/09/2023 29/09/2023 8.30am
10/11/2023 17/11/2023 8.30am
22/02/2024 29/02/2024 8.30am
13/06/2024 20/06/2024 8.30am