Mae Fforwm Ymgysylltu ar y Cyd y Cyngor (CJEF), a sefydlwyd yn 2023, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r Undebau Llafur godi materion ag aelodau'r Cyngor cyn cyfarfodydd y Cyngor. Nid corff gwneud penderfyniadau na chorff negodi na rhan o system fargeinio ar y cyd ffurfiol yw'r Fforwm. Bydd y CJEF yn galluogi aelodau lleyg Cyngor y Brifysgol i ymgysylltu'n effeithiol ag Undebau Llafur y Campws ar bob agwedd ar gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Cyngor. Bydd hefyd yn darparu fforwm i drafod materion strategol allweddol sy'n effeithio ar staff (megis gwybodaeth i'w rhannu yn y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi (JCNC) ag Undebau'r Campws) i alluogi cynrychiolwyr i gyflwyno barn eu haelodau ar faterion cyn i'r Cyngor wneud penderfyniadau.  Fel rheol dylai'r Fforwm gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a gellir galw cyfarfodydd arbennig gan y Cadeirydd neu ar gais yr Undebau Llafur. 

Cylch gorchwyl

Bay clock tower
CyfansoddiadAelodaeth
Cadeirydd y Cyngor (Cadeirydd) Mr Bleddyn Phillips 
Aelod Lleyg Ychwanegol o'r Cyngor Yr Athro Edward David 
Aelod Lleyg Ychwanegol o'r Cyngor Yr Athro Kathryn Monk 
Aelod Undeb Llafur UCU Swydd wag
Aelod Undeb Llafur UNSAIN Martyn Sullivan
Aelod Undeb Llafur UNITE Gareth Evans
Papurau Dyddiad AllanDyddiad y CyfarfodAmser y Cyfarfod