Nod y Brifysgol yw darparu amgylchedd diogel a sicr i’r holl fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr unigol sy’n defnyddio ei chyfleusterau a’i gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn rhyddid ac urddas yr unigolyn i’r graddau nad yw’n ymyrryd â rhyddid ac urddas eraill neu’n tanseilio cydlyniad cymunedol.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod ei chyfrifoldeb penodol am ddiogelu lles grwpiau bregus gan gynnwys plant a phobl ifanc sydd ynghlwm â holl weithgaredd y Brifysgol drwy sicrhau bod trefniadau digonol yn eu lle i’w galluogi i wneud ei dyletswydd i ddarparu amgylchedd diogel a sicr.