Hysbysiadau'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Ynghylch Casglu Data am Fyfyrwyr

Mae'n ofyniad cyfreithiol y caiff peth o'r wybodaeth sydd gan y Brifysgol amdanoch ei hanfon at yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) bob blwyddyn. Ychwanegir eich cofnod at gronfa ddata sy'n cael ei phasio i adrannau'r llywodraeth ganolog, asiantaethau a llywodraethau datganoledig lle mae angen yr wybodaeth er mwyn iddynt gyflawni eu swyddogaethau statudol yn unol â'r Deddfau Addysg. Fe'i defnyddir hefyd gan HESA a'r cyrff uchod at ddibenion dadansoddi ystadegol, sy'n arwain at gyhoeddi a datgelu data i ddefnyddwyr cymeradwy anstatudol eraill. Gall y rheini gynnwys ymchwilwyr academaidd ac undebau llafur.

Am ragor o wybodaeth am sut mae HESA yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol, ewch i www.hesa.ac.uk/fpn.

Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 mae gennych hawl i weld yr wybodaeth sydd gan HESA amdanoch. Bydd angen i chi dalu ffi fach am hyn. Am ragor o wybodaeth am ddiogelu data a gwybodaeth HESA amdanoch, ewch i www.hesa.ac.uk/dataprot neu e-bostiwch data.protection@hesa.ac.uk. Os oes gennych unrhyw bryderon, neu wrthwynebiad, ynghylch defnyddio data at y dibenion hyn, cysylltwch â HESA yn www.hesa.ac.uk neu drwy ysgrifennu i 18 Royal Crescent, Cheltenham GL50 3DA.