Mae gennym barch mawr tuag at ein cydweithwyr yn y GIG a'r gwaith y maent yn ei wneud oherwydd argyfwng Covid-19.
Yn ystod yr argyfwng, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion arloesol i leddfu'r baich ar ein gwasanaethau brys. Rydym wedi bod yn gyflym, er enghraifft, i ymateb i'r prinder difrifol o ran cyfarpar diogelu personol, gan ddefnyddio argraffyddion 3D o'r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb, ac rydym wedi newid ein labordai solar dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos.
Mae tîm o'n myfyrwyr wedi creu a datblygu triniaeth newydd i ryddhau nwy'n sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, sef hanner yr amser arferol, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno'r system i wasanaethau golau glas eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty.
Mae timau o bob rhan o'r Brifysgol hefyd wedi dod ynghyd i gefnogi consortiwm newydd ei sefydlu: mae SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru) yn cydlynu gallu diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen.
Mae ein Hysgol Feddygaeth yn ategu gwaith y GIG. Er mwyn atgyfnerthu'r cymorth, mae mwy na 700 o'n myfyrwyr nyrsio wedi penderfynu cwblhau eu hyfforddiant ar y rheng flaen, gan dderbyn rolau clinigol yn ystod y pandemig. Mae myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn olaf yn Abertawe hefyd wedi penderfynu cael eu sefydlu fel meddygon ar ôl cofrestru'n gynnar ar sail dros dro.
Mae ein hymateb yn rhan o ymdrech ledled y DU gan sefydliadau addysg uwch. Yn Abertawe, byddwn yn parhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud orau, sef defnyddio ymchwil i helpu ein cymuned, mewn unrhyw ffordd bosib.